S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhagolwg at Gwpan Rygbi'r Byd 2019 gyda thîm S4C

Tim Cwpan Rygbi'r Byd S4C (Chwith i dde): Catrin Heledd, Nicky Robinson, Gareth Rhys Owen, Wyn Gruffydd a Deiniol Jones.

18 Medi 2019

Ar ôl tri mis o baratoi ffyrnig, bydd chwaraewyr Cymru yn gobeithio gweld yr holl ymarfer yn dwyn ffrwyth ar ddydd Llun 23 Medi, pan fyddan nhw'n cychwyn eu hymgyrch Cwpan Rygbi'r Byd 2019 yn erbyn Georgia.

Mae 2019 eisoes wedi bod yn flwyddyn i'w gofio i dîm Warren Gatland, wedi iddyn nhw selio'r Gamp Lawn, gosod record newydd o 14 buddugoliaeth yn olynol ac am gyfnod byr, dringo i rif un ar restr detholion y byd. Wrth i'r garfan ymgeisio i hawlio'r darian Webb Ellis, cewch ddilyn pob cam o'r daith gyda S4C.

Bydd tîm cyflwyno Cwpan Rygbi'r Byd S4C yng nghanol yr holl gyffro yn Siapan wrth ddod â'r diweddaraf o'r garfan, cyfweliadau ecsgliwsif a dadansoddiadau craff.

Ar drothwy'r gystadleuaeth, cawsom sgwrs gyda phum aelod o dîm Cwpan Rygbi'r Byd S4C – Gareth Rhys Owen, Catrin Heledd, Wyn Gruffydd a chyn chwaraewyr Cymru, Deiniol Jones a Nicky Robinson - i gael eu barn am y gystadleuaeth.

Beth yw gobeithion realistig Cymru?

Catrin Heledd: Cyrraedd yr wyth olaf, lle gallen nhw gwrdd â Lloegr. Curo nhw, a phwy a ŵyr?

Deiniol Jones: Dw i'n disgwyl i Gymru ddod trwy'r grŵp ac o'r fan 'na, mae ganddyn nhw'r gallu i faeddu unrhyw un ar eu dydd.

Gareth Rhys Owen: Heb os, mi all Cymru ennill – ond efallai bydd rhaid trechu'r Crysau Duon i wneud hynny.

Wyn Gruffydd: Cyrraedd rownd yr wyth olaf, ac os ydyn ni i gredu yr hyn y mae Warren Gatland yn ei ddweud, mae Cymru yn barod i ennill Cwpan y Byd.

Nicky Robinson: Ni di curo pawb yn y byd dros y 12 mis diwethaf oni bai am un tîm ac mae'r garfan yn credu bod nhw'n gallu gwneud rhywbeth arbennig.

Pa chwaraewr fydd arwr tawel Cymru?

CH: Justin Tipuric – mae e'n dawel oddi ar y cae ond yn arwain arno.

DJ: Y ddau prop, Nicky Smith a Tomas Francis. Os bydd Cymru'n llwyddo i wneud yn dda yng Nghwpan y Byd, bydd e wedi seilio ar eu gwaith nhw yn y sgrym.

GRO: Nid y chwaraewr fwyaf llachar neu disglair, ond mae'n rhaid angori'r sgrym, felly fydd y prop Tomas Francis yn holl, hollbwysig.

WG: Wyn Jones. Prop pen rydd all ymddangos hefyd ar y pen tynn a bod angen.

NR: James Davies. Mae'n gymeriad mawr oddi ar y cae ac os mi gaiff e'r cyfle, fi'n credu bod e'n chwaraewr wnaiff sefyll lan pan mae'r pwysau ymlaen.

Pa dîm fydd yn ein synnu eleni?

CH: Yr Ariannin. Maen nhw wastad yn gwneud yn dda yng Nghwpan y Byd.

DJ: Er mor drychinebus maen nhw 'di bod dros y dros tymhorau diwethaf, mae Ffrainc wir yn edrych yn beryglus nawr.

GRO: Ni'n gwybod fod gan Siapan y gallu i greu sioc. Maen nhw gartre, ac yn eu grŵp dyw Iwerddon ddim yn hedfan a mae'r Albanwyr yn anghyson, falle mae cyfle yna i'r tîm cartref.

WG: Siapan! Greddf cynta'r Siapaneaid yw lledu'r bêl ac fe ddaw hynny fel chwa o awyr iach.

NR: Yn yr un grŵp a Lloegr mae Ffrainc a'r Ariannin. Maen nhw'n herio'u gilydd yn y gêm cyntaf, felly fi'n credu fe all enillwyr y gêm yna fod yn beryglus iawn.

Pwy fydd yn sgorio'r nifer fwyaf o geisiau yn y gystadleuaeth?

CH: Jonathan Davies

DJ: Sevu Reece.

GRO: Rieko Ioane

WG: Sbu Nkosi.

NR: Sevu Reece. Neu, falle bachwr Seland Newydd, Dane Coles.

Enillwyr Cwpan Rygbi'r Byd 2019 fydd....?

CH: Seland Newydd

DJ: Mae breuddwyd Cymru yn fyw ond fi'n credu bod gêr arall 'da Seland Newydd.

GRO: Y ffeinal bydd Cymru v Seland Newydd. Pwy fydd yn ennill? Seland Newydd.

WG: De Affrica

NR: De Affrica.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?