S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dilynwch ranbarthau Cymru gyda darpariad estynedig S4C o’r Guinness PRO14

Ar drothwy tymor 2019/20 y Guinness PRO14, bydd cefnogwyr o'r pedwar rhanbarth yn gallu dilyn eu timoedd drwy'r ymgyrch gyfan gyda gemau byw a darllediadau gohiriedig ar S4C.

Bydd tîm Clwb Rygbi yn dychwelyd i'r sgrin y penwythnos hwn i ddarlledu tair gêm Guinness PRO14. Bydd darllediad byw o'r gêm rhwng Scarlets a Connacht ar nos Sadwrn 28 Medi am 5.00pm, yn ogystal â darllediadau gohiriedig o Ulster v Gweilch, am 3.10pm ar ddydd Sul 29 Medi, a Southern Kings v Gleision Caerdydd, am 10pm ar nos Lun 30 Medi.

Bydd Clwb Rygbi yn dangos 17 gêm byw ac yn darlledu 40 gêm ychwanegol y tymor hwn. Pe bai rhanbarth o Gymru yn symud ymlaen i'r rownd derfynol, a gynhelir yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mîs Mehefin 2020, bydd S4C yno i ddangos y gêm yn fyw.

Clwb Rygbi: Scarlets v Connacht - Nos Sadwrn, 5pm

Bydd gemau yn cael eu darlledu'n fyw ar y teledu ac ar-lein trwy S4C Clic, sy'n rhoi'r cyfle i wylwyr ddal i fyny am 35 diwrnod wedi'r darllediad.

Dywedodd Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Mae Rygbi ar feddwl pawb dros yr Hydref ac S4C yw'r unig sianel deledu rhad-ac-am-ddim fydd yn dangos gemau byw rhanbarthau Cymru yn rheolaidd. Pob lwc i'r pedwar rhanbarth a gobeithio byddwn ni'n eich gweld chi yng Nghaerdydd mis Mehefin nesaf."

Meddai Martyn Phillips, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru: "Mae S4C yn bartner hynod o werthfawr i rygbi yng Nghymru ac mae'n rhaid canmol safon eu darpariaeth o gemau'r rhanbarthau yn y Guinness PRO14.

"Mae S4C yn ddarlledwr sy'n cefnogi rygbi yng Nghymru yn fawr iawn drwy ddod a'r gemau gwych hyn yn syth i dai cefnogwyr rygbi ledled y wlad, a bydded i hynny barhau."

Gemau Byw Guinness PRO14 2019/20

Scarlets v Connacht - Sadwrn 28.09.19 - 17.00

Gleision Caerdydd v Caeredin - Sadwrn 05.10.19 - 17.00

Dreigiau v Connacht Gwener - 11.10.19 - 19.25

Ulster v Gleision Caerdydd - Gwener 25.10.19 - 19.25

Gweilch v Connacht - Sadwrn 02.11.19 - 17.00

Gleision Caerdydd v Cheetahs - Sadwrn 09.11.19 - 17.00

Dreigiau v Zebre Sadwrn - 30.11.19 - 17.00

Dreigiau v Scarlets - Sadwrn 21.12.19 - 17.00

Gleision Caerdydd v Dreigiau - Iau 26.12.19 - 14.45

Gweilch v Ulster - Sadwrn 15.02.20 - 17.00

Scarlets v Southern Kings - Sul 23.02.20 - 17.00

Dreigiau v Cheetahs - Sadwrn 29.02.20 - 17.00

Connacht v Scarlets Gwener 20.03.20 19.25

Cheetahs v Gweilch Sadwrn 11.04.20 17.00

Benetton v Scarlets Gwener 24.04.20 18.05

Gweilch v Zebre Sadwrn 09.05.20 17.00

Scarlets v Munster Sadwrn 16.05.20 17.00

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?