S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn croesawu prentisiaid newydd

Mae S4C wedi lansio cynllun prentisiaid newydd sbon ac wedi croesawu tri prentis newydd i weithio o bencadlys y sianel yng Nghanolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin.

Mae'r cynllun hwn yn rhan o ymrwymiad S4C i hyfforddi ac annog pobl i ddod i weithio o fewn diwydiant y cyfryngau a'r celfyddydau creadigol gan gynnig cyfleoedd a datblygu sgiliau yn lleol yn y Gorllewin.

Mae Gruffudd Evans wedi ei benodi fel prentis digidol, Joseph Hughes fel prentis cyllid ac Enfys Davies-Harries fel prentis materion busnes.

Bydd y prentisiaid yn gweithio i S4C am gyfnod o 14 mis gan gael blas o holl agweddau'r sianel a'r diwydiant.

Meddai Enfys Davies–Harries 22 oed o Efail Wen:

"Mae'n fraint cael ymuno a thîm S4C fel prentis materion busnes. Fe wnes i ystyried dilyn cwrs busnes yn y coleg yn ddiweddar ond wrth i'r cyfle hwn godi gyda S4C, dwi wrth fy modd i gael dysgu a phrofi y gwaith holl bwysig o gynnal sianel deledu Gymraeg."

Meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C:

"Daeth y cyfle i gynnig cynllun prentisiaeth wrth i ni adleoli pencadlys S4C i Ganolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin. Mae'r cynllun hwn yn ffordd i ni fuddsoddi yn nyfodol y sianel, gan ddatblygu unigolion trwy gyfrwng y Gymraeg a fydd o fudd i S4C ac i'r diwydiant yn ehangach. Rydym hefyd yn falch iawn o allu cynnig profiadau a chyfleoedd gwerthfawr yng Ngorllewin Cymru."

Gobeithir y bydd y cynllun hwn yn parhau i'r dyfodol gan ehangu ar y meysydd a'r arbenigedd o fewn S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?