S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Galw ar gerddorion wrth lansio Cân i Gymru 2020

8 Tachwedd 2019

Ar ôl dathlu ei hanner canmlwyddiant eleni, mae'r gystadleuaeth eiconig Cân i Gymru yn parhau i wneud ei marc ledled Cymru.

Bydd Cân i Gymru 2020 yn cael ei lansio ar Ddydd Gwener, 8 Tachwedd yn fyw ar raglen Heno o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sef lleoliad y gystadleuaeth flwyddyn nesaf. Fel rhan o'r adloniant bydd enillydd Cân i Gymru 2019, Elidyr Glyn, yn dychwelyd i'r Ganolfan i berfformio ei gan fuddugol Fel hyn 'da ni fod.

Dywedodd Elidyr: "Mae ennill wedi bod yn hwb mawr i fy hyder fel cyfansoddwr, ac yn fy nghymell i barhau i ysgrifennu caneuon yn y dyfodol."

Bydd y perfformiad hefyd yn siŵr o ysbrydoli cantorion a chyfansoddwyr Cymru i gyfansoddi cân arbennig eu hunain ar gyfer Cân i Gymru 2020. Darlledir y gystadleuaeth yn fyw ar 29 Chwefror ar S4C am 8.00 gydag Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn cyflwyno.

Mae Siôn Llwyd o gwmni Avanti sy'n cynhyrchu'r rhaglen ar gyfer S4C wedi addo cystadleuaeth i'w chofio, ac iddo ef, dim ond un elfen o baratoi at y gystadleuaeth fawreddog yw'r lansiad.

"Yn dilyn y dathlu a llwyddiant ysgubol 2019, rwy'n edrych 'mlaen at gystadleuaeth cystal i ddechra'r 50 mlynedd nesa.

"Rydym wrthi'n penodi'r rheithgor fydd yn dewis yr wyth cân fuddugol. Er mwyn rhoi chwarae teg i bawb, mae angen i'r rheithgor gynrychioli pob steil o gerddoriaeth.

"Wrth gyfarch degawd newydd, mae angen annog ceisiadau o bob genre i gynrychioli'r cyfoeth ac amrywiaeth o gerddoriaeth sy'n bodoli yn y Gymru gyfoes."

Mae cystadleuaeth Cân i Gymru wedi cael ei chynnal ers 1969 ac mae'n gyfle i gyfansoddwyr gynnig caneuon gwreiddiol am gyfle i ennill gwobr ariannol. Margaret Williams, Bryn Fôn, Caryl Parry Jones, Elin Fflur - dyma rhai o gewri'r byd adloniant yng Nghymru sydd wedi ennill Cân i Gymru dros yr hanner canrif ddiwethaf.

Dyddiad cau ar gyfer Cân i Gymru 2020 yw 3 Ionawr am 5 o'r gloch. Am y manylion i gyd, cofiwch wylio rhaglen Heno ar nos Wener, 8 Tachwedd. Mae ffurflen gais ar gael ar wefan www.s4c.cymru/cy/adloniant/cn-i-gymru/

Ychwanegodd Siôn: "Gyda'r dyddiad cau ym mis Ionawr mae'n amser grêt i bobl ddefnyddio cyfnod y Nadolig i sbarduno syniadau a chyfansoddi. Yr oll sydd angen i gystadlu yw copi o'r geiriau a syniad o'r alaw. Dim ots am safon y recordiad. Ma'n gyfle gwych i gystadlu am £5,000, cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-geltaidd ac wrth gwrs yr anrhydedd o ennill y tlws a'r teitl Enillydd Cân i Gymru 2020. Ewch amdani."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?