S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Erin Mai â’i 'Chalon yn Curo' wrth edrych ymlaen at Junior Eurovision

21 Tachwedd 2019

Cyn i gyffro'r Nadolig ein hamgylchynu ar derfyn blwyddyn arall, mae taith arbennig un ferch o Lanrwst i gynrychioli Cymru ar y gorwel. Dim ond un dymuniad sydd gan Erin Mai, a'r dymuniad hwnnw ydi i wneud ei gorau glas dros Gymru ar lwyfan Junior Eurovision.

Ar ôl ennill y gyfres deledu boblogaidd Chwilio am Seren Junior Eurovision yn gynharach eleni, mae Erin Mai, 14 oed, ar fin cyrraedd uchafbwynt ei thaith. Bydd ffeinal y gystadleuaeth fawr yn cael ei chynnal yn Gliwice, Gwlad Pŵyl ar 24 Tachwedd, gyda chynulleidfa o filiynau ar hyd a lled Ewrop am fod yn tiwnio mewn i wylio'r cystadlu.

Bydd holl gyffro'r digwyddiad ar gael i'w wylio yn fyw ar S4C ar Junior Eurovision: Y Ffeinal yng nghwmni Trystan Ellis-Morris fydd yn lleisio'r cyfan o 3 o'r gloch ymlaen.

"Mae'r holl brofiad fel breuddwyd wedi dod yn wir. Nes i fyth meddwl faswn i ar fy ffordd i ffeinal y Junior Eurovision pan wnes i gamu i mewn i fy nghlyweliad cyntaf ar raglen Chwilio am Seren Junior Eurovision," meddai Erin Mai.

Bydd Erin yn cystadlu yn erbyn 18 o wledydd eraill Ewrop ac yn canu cân sydd wedi cael ei chyfansoddi yn arbennig ar gyfer y gystadleuaeth, Calon yn Curo. Bydd y gystadleuaeth yn cael ei darlledu i gynulleidfa o filiynau ar hyd a lled y byd.

"Bydd o'n wahanol iawn i berfformio ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd, yn sicr! Dwi 'rioed 'di canu o flaen gymaint o bobl â hynny o'r blaen! Fydd fy nghalon yn curo – dwi'n edrych ymlaen yn ofnadwy i gamu ar lwyfan Junior Eurovision, ond dwi'n teimlo mor nerfus hefyd ar yr un pryd.

"Mae'r gân Calon yn Curo yn sôn am goncro dy ofnau – a dyna'n union dwi'n gobeithio fyddai'n ei wneud. Dwi am fwynhau y profiad – mae o'n brofiad unwaith mewn oes!"

Erbyn hyn, mae perfformiad Erin Mai o'r gan Calon yn Curo wedi cael ei wylio dros 100 mil o weithiau ar YouTube.

"Can mil? Dwi methu credu'r bod gymaint â hynny wedi fy ngwylio fi yn perfformio! Gobeithio gwneith y can mil hynny bleidleisio dros Gymru ar benwythnos y gystadleuaeth!"

"Mwynhau sy'n bwysig, ac os nai wneud pobl Cymru yn hapus, yna fyddai'n teimlo fel fy mod wedi llwyddo, dio'r otsh be' 'di'r canlyniad! Ond plis cofiwch bleidleisio dros Gymru!" ychwanegodd Erin.

Cyn y gystadleuaeth fyw, bydd cyfle i'r gwylwyr olrhain taith Erin Mai o'i chyfweliad cyntaf draw yn Venue Cymru, Llandudno i Gliwice, Gwlad Pŵyl ar gyfer cystadleuaeth fawr y Junior Eurovision. Bydd y rhaglen arbennig Erin yn Ewrop ymlaen ar S4C nos Sadwrn, 23 Tachwedd am 7.15.

Cofiwch wylio holl gyffro'r cystadlu ar S4C prynhawn Sul, 24 Tachwedd. I bleidleisio, ewch i wefan Junior Eurovision ar junioreurovision.tv/voting. Bydd y bleidlais yn agor am 19.00 GMT ar nos Wener 22 Tachwedd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?