S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dawnsio i ddathlu popeth sy’n dda mewn bywyd - a’r Nadolig!

6 Rhagfyr 2019

Gall dawns dod a llawenydd mawr i fywyd pobl o bob oed a chefndir - a dyna beth sydd wedi ysbrydoli S4C y Nadolig hwn i wahodd dawnswyr proffesiynol ac amatur i serennu fel rhan o idents Nadolig y sianel.

Mae'r sianel wedi ymuno â phedwar o gwmnïau dawns fwyaf blaenllaw Cymru a'i gwahodd i gyflwyno perfformiad gan ddawnswyr sydd yn adlewyrchu'r effaith bositif mae dawns yn cael ar eu bywydau nhw.

Bydd yr idents, sydd yn dechrau ar S4C o Ddydd Sadwrn, 7 Rhagfyr, yn ymddangos yn ystod toriadau rhwng y rhaglenni. Felly, dewch i gwrdd â'r dawnswyr!

Daeth Roger ac Angela Harrison o Penylan, Caerdydd yn rhan o 'Dawns ar gyfer Parkinson's' - prosiect gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru sy'n cynnig cymorth i bobl sy'n byw gyda'r cyflwr.

Dywedodd Angela, sydd wedi cael ei diagnosis o Parkinson's: "Mae 'Dawns ar gyfer Parkinson's' yn cynnig llawer o hwyl a chwerthin ac mae'n gwneud byd o les imi. Rwy'n teimlo'n flinedig ar y dechrau ond erbyn y diwedd rwy'n teimlo llawn egni."

Mae ei gwr Roger yn mwynhau'r sesiynau wythnosol hefyd: "Rwy'n mwynhau'r cymdeithasu - cwrdd â phobl eraill sydd hefyd yn byw gyda Parkinson's. Ry'n ni gyd yn yr un cwch. Mae'n brofiad positif a llon sy'n helpu ni i anghofio ein gofidiau."

Bydd sgiliau arbennig Joe Powell-Main i'w weld ar S4C hefyd. Dawnsiwr ifanc o Drefaldwyn, Powys yw Joe sy'n hyfforddi i fod y dawnsiwr ballet gydag abledd gwahanol cyntaf yn y DU gyda chymorth Ballet Cymru.

Meddai Joe: "Dw i wir yn credu bod yr agweddau a'r positifrwydd tuag at gynhwysiant y mae Ballet Cymru yn dangos wedi arloesi yn yr ymdrech i newid agweddau mewn ballet clasurol. Rydw i wrth fy modd i allu dangos y sgiliau dw i wedi meithrin trwy'r cwmni ar S4C."

Mae dawnswyr ifanc o Jukebox Collective yng Nghaerdydd yn cynnig rhywbeth hollol wahanol - dawns stryd. Fel rhan o'i gwaith cymunedol, mae Jukebox Collective yn cynnig dosbarthiadau dawns stryd cynyddol er mwyn cynnig ysbrydoliaeth a chymorth i bobl ifanc yn ardaloedd Trebiwt a Trelai.

Bydd tri o'r dawnswyr yn ymddangos yn yr idents Nadolig - Jo-el Bertram (16), Shakira Ifill (14) a Renae Brito (14).

Meddai Shakira: "Mae'r effaith positif mae dawns yn cael ar fy mywyd yn cynnig nid yn unig cydbwysedd gyda fy ngwaith TGAU ond hefyd mae'n rhoi profiad gwych o ddysgu ac addysgu yn y maes hwn. Roedd gweithio gyda S4C yn ffordd wych i mi allu datblygu fy mhrofiad o ddawns ar ffilm ac yn galluogi fi i archwilio'n ddyfnach i fy nghymeriad."

Meddai Renae: "Rwy'n dwlu ar ddawnsio oherwydd mae'n gwneud imi deimlo'n rhydd ac yn gyfforddus! Mae'n creu naws positif i fy niwrnod a dwi'n anghofio'r pethau sy'n poeni fi. Mae Jukebox wedi rhoi mwy o hyder i mi a dwi wrth fy modd bod yn rhan o'r tîm."

Dywedodd Jo-el ei fod e wedi mwynhau gweithio gyda S4C: "Roedd bod ar set gyda S4C yn anhygoel. Roedd yr holl brofiad yn gwneud i ni deimlo'n Nadoligaidd iawn. Roedd hyn yn cŵl - wnes i ddychmygu fy hunan fel rhywun oedd yn gwylio'r teledu a fyddwn yn edrych fel teulu sydd methu aros am y Nadolig!"

Mae'r idents Nadolig S4C yn cynnwys perfformiad gan NuWave - cwmni dawns o fenywod oedran 55+ o ardal Casnewydd. Rubicon sy'n rhedeg y grŵp - mudiad datblygiad dawns cymunedol sy'n cynnig gweithgareddau dawns i bobl o bob oedran.

Meddai Kathryn Williams o Rubicon: "Mae NuWave yn grŵp perfformio dawns i fenywod o bob cefndir, ond, iddyn nhw, mae'r grŵp yn mynd tu hwnt i ddawnsio a pherfformio yn unig. Mae'n cynnig cyfeillgarwch a chwmni. Mae'r dawnsio yn eu cadw'n actif, felly maen nhw'n herio eu hunain ac yn herio beth yw ystyr bod yn greadigol pan ych chi'n mynd yn hyn."

Bethan Tame sydd wedi cynhyrchu'r idents ar gyfer S4C. "Ro'n i eisiau i'r idents i bortreadu'r syniad bod dawns yn hardd, cynhwysol, hygyrch ac yn hwyl - pethau sydd yn adlewyrchu'r cynhesrwydd a'r sbri o ddod at ein gilydd amser Nadolig. Rwy'n gobeithio bod ein idents Nadolig yn codi ymwybyddiaeth o'r gwaith arbennig sydd yn cael ei wneud gan bob un o'r mudiadau sydd wedi cymryd rhan."

Nodiadau:

Darganfod mwy am Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a'r prosiect Dawns ar gyfer Parkinson's ar https://ndcwales.co.uk/dance-parkinsons

Dysgu mwy am Joe Powell-Main ar wefan Ballet Cymru www.welshballet.co.uk

Darllenwch am waith Jukebox Collective a'r rhaglen academi ar www.jukeboxcollective.com. Mae Academi Jukebox yn cynnig cyfle unigryw a chynhwysol i'r rhain gyda thalent o bob cefndir i wireddu eu potensial a chreu dyfodol positif a chreadigol.

Mwy o wybodaeth am Rubicon Dance wrth ymweld â www.rubicondance.co.uk

Lluniau ar gael wrth ddilyn y linc: https://www.dropbox.com/sh/pnm3atzbl24rie9/AACVJ2YMFr4py1oCMIN320PPa?dl=0

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?