S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Chwe Gwlad eleni yn llinyn fesur ar drawsnewidiad dramatig David

15 Ionawr 2020

Mae'r gyfres deledu FFIT Cymru yn derbyn ceisiadau gan bobl sydd eisiau cymryd rhan yn y gyfres newydd eleni.

Mae'r gyfres iechyd a thrawsnewid yn dychwelyd i S4C ym mis Ebrill ac mae'n bosib i unrhyw un sy'n gobeithio cymryd rhan i wneud hynny drwy lenwi ffurflen gais ar wefan FFIT Cymru, s4c.cymru/ffitcymru. Y dyddiad cau yw Dydd Gwener 31 Ionawr.

Mae lot yn gallu newid dros gyfnod o flwyddyn – mae David Roberts, un o arweinwyr cyfres deledu FFIT Cymru yn 2019, yn dyst o hynny.

Ar yr un diwrnod roedd y genedl yn dathlu buddugoliaeth ddramatig dros Loegr yn y Chwe Gwlad fis Chwefror diwethaf, fe gafodd David ddarn o newyddion ysgytwol ei hun.

Ac yntau'n pwyso 19 stôn 9 pwys ar y pryd, fe gafodd David ei rybuddio gan feddyg bod angen iddo newid ei ffordd o fyw ar ôl i'w bwysau gwaed gael ei fesur yn beryglus o uchel.

Roedd David yn 19 stôn 9 pwys cyn iddo ymgeisio i fod yn rhan o FFIT Cymru.

Dyna oedd y sbardun i David, sy'n 50 oed, i roi cais i gymryd rhan yng nghyfres deledu S4C, FFIT Cymru, sy'n rhoi cyfle unigryw i bum person golli pwysau, anelu i fod ynheini a newid eu bywydau am y gorau.

Dywedodd David, sydd â dau o blant: "Oedd y doctoriaid yn dweud fy mod i ar fin cael strôc, oedd fy mhwysau gwaed yn 193 dros 124.

"Dyna beth oedd o'n fesur ar y diwrnod wnaeth Cymru guro Lloegr yn y Chwe Gwlad blwyddyn ddiwethaf. Duw a ŵyr be oedd o pan ddaru nhw sgorio'r cais olaf 'na!"

Wrth iddo edrych ymlaen at y Bencampwriaeth eleni, mae iechyd David wedi newid yn gyfan gwbl.

Ar ôl i'w gais gael ei dderbyn, fe gafodd David y cyfle i fod yn un o bum arweinydd y rhaglen, gan dderbyn arweiniad a chyngor proffesiynol gan hyfforddwr ffitrwydd, seicolegydd a dietegydd. Dros gyfnod o saith wythnos, fe aeth yr arweinwyr ati i geisio newid eu ffordd o fwyta a gwneud mwy o ymarfer corff, gyda'r nod o golli pwysau ac adennill hunan hyder.

Fe ymrwymodd David yn gyfan gwbl i'r rhaglen, gan golli 3 stôn ac 11 pwys dros y saith wythnos. Mae o wedi parhau gyda'r momentwm ers iddo ddod i ben hefyd, gan gwblhau'r ras 10K Caerdydd ym mis Medi gyda'i gyd arweinwyr, Annaly a Matthew.

Mae ei ddisgyblion a'i gyd athrawon yn Ysgol Heol y Celyn, ym Mhontypridd, yn parhau gyda'u sesiynau aerobics dwy-waith yr wythnos a ddechreuwyd yn ystod y gyfres, tra bod ei rieni, sydd yn ei 80au, yn cerdded yn fwy aml yn ogystal.

Gosod targedau bychain yn rheolaidd yw'r gyfrinach tu ôl i'w lwyddiant yn ôl David, sy'n gobeithio y byddai wedi colli chwe stôn erbyn i dîm rygbi Cymru gychwyn eu hymgyrch Chwe Gwlad ym mis Chwefror.

"Dw i ddim jyst yn teimlo fel bod o wedi newid fy mywyd i, dw i'n teimlo bod o wedi achub fy mywyd i. Oni ar fin cael strôc a dw i'n teimlo mai FFIT Cymru sydd wedi achub fy mywyd i.

"Fi oedd un o'r bobl fwyaf diog ac unfit yng Nghymru - ond mi ydw i wedi gallu troi pethau rownd, felly mi fedrith unrhyw un wneud hynny. Doedd gennai ddim parch at fy nghorff. Nawr fod genna i, dwi 'di sylweddoli mai hwn yw'r unig gorff fydda i'n cael, a pha mor bwysig ydi o gadw'r corff yna'n iachus. Dw i'n gallu gwneud pethau rŵan nad oeddwn i'n gallu gwneud blwyddyn yn ôl.

David yn siarad am yr effaith gafodd FFIT Cymru arno.

"Mae'n anodd mynd i fyny at rywun a dweud - 'ti'n dew, dos ar FFIT Cymru.' Ond os oes na unrhyw berson yn teimlo'n unfit a dros eu pwysau, dyna'r peth gorau gallen nhw wneud. Mae cael yr holl gymorth yna am ddim - fysai arian ddim yn gallu prynu'r profiad rydw i 'di gael, galli' di ddim rhoi pris arno."

Os hoffech chi wneud cais i fod yn rhan o gyfres tri o FFIT Cymru, ewch i s4c.cymru/ffitcymru. Y dyddiad cau yw Dydd Gwener 31 Ionawr.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?