S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Niki Pilkington: Fy mywyd fel dylanwadwr

6 Chwefror 2020

Dylanwadwr Cyfryngau Cymdeithasol yw un o'r opsiynau gyrfa mwyaf poblogaidd ymysg plant ym Mhrydain heddiw, ac er nad yw pawb mewn cymdeithas yn siŵr beth mae'r gwaith yn ei gwmpasu, mae gan pawb farn ar y pwnc.

Gyda dilynwyr yn eu miloedd eisiau gwneud yr hyn mae dylanwadwyr yn ei wneud a phrynu yr hyn maent yn ei arddangos, sut brofiad mewn gwirionedd, yw bod yn un?

Yn Niki Pilkington: Fy mywyd fel dylanwadwr bydd sianel ar-lein S4C, Hansh, yn datgelu'r cyfan wrth ddilyn Niki, darlunydd a dylanwadwr o Nefyn, wrth iddi fyw bywyd anhygoel yn Los Angeles.

Bellach mae ei chelf unigryw gyda'i steil drawiadol, hawdd i'w adnabod mor boblogaidd - mae brandiau mawr fel Nike, Topshop, Facebook a MTV eisiau iddi eu helpu i werthu eu cynnyrch.

Cawn olwg manwl ar fywyd Niki o flaen y lens wrth i oriau o ddeunydd gael eu torri mewn i ffilm fer drawiadol sy'n cyfleu'r cyfan mewn llai na 15 munud.

Gellir gwylio'r ddogfen ar-lein unrhyw bryd ar YouTube yn ogystal ag o gyfrifon cymdeithasol Hansh.

Mae Niki yn pwysleisio nad oedd dod yn ddylanwadwr yn rhywbeth a ddigwyddodd dros nos.

"Darlunio ydi fy nghrefft, dyna beth ydw i dros bopeth arall. Rwyf wedi gweithio'n galed am flynyddoedd i adeiladu fy mrand felly estyniad o'r hyn dwi'n ei wneud ydi bod yn ddylanwadwr, yn hytrach na'r hyn ydw i.

"Mae enw da mor bwysig, roedd rhaid ennill ymddiriedaeth y brandiau mawr fel eu bod yn gallu dibynnu arnaf i ddangos eu gwaith.

"Ydy, mae'n swydd ryfedd ond dwi wrth fy modd cael y rhyddid i weithio i mi fy hun, heb fod yn gaeth o naw tan bump, a heb orfod cymudo. Ond ar y llaw arall, does dim modd anghofio am waith ar adegau."

Mae Niki yn byw breuddwyd y dylanwadwr – bywyd llewyrchus yn LA, dilyniant enfawr ar Instagram a busnes llwyddiannus. Ond a yw'n fêl i gyd?

Wrth i gymaint o bobl ifanc ddymuno dilyn ôl ei thraed, mae Niki yn barod i ddiosg y mwgwd er mwyn rhannu â ni, a ni yn unig, sut mae llwyddo ar-lein.

Sut beth yw byw mewn ofn y bydd platfform cyfryngau cymdeithasol newydd yn disodli insta, neu ei fod yn diflannu'n llwyr hyd yn oed, ynghyd â'i gwaith?

Nid yw pob cynnwys yn gweithio ar bob platfform, ac mewn diwydiant sy'n newid yn gyflym mae Niki yn gwybod bod angen iddi addasu a gweithio'n galed i ddiogelu dyfodol ei busnes.

Gwelwn sut mae pwysau bywyd dylanwadwr yn effeithio iechyd meddwl Niki, mae ceisio cael cydbwysedd sy'n sicrhau nad yw ei gyrfa'n cael ei rheoli gan y cyfryngau cymdeithasol yn frwydr parhaol.

"Dwi'n dioddef o byliau o banig a gorbryder. Mae fy nghalon i'n suddo wrth agor fy ebyst ar adegau, a gweld yr holl bethau sydd angen delio gyda. Dwi'n gwybod mod i'n lwcus i fod ble 'rydw i, ond mae na adegau lle dwi'n teimlo'n isel. O ni ofn rhannu i ddechrau, ond wedyn nes i sylwi fod llawer o bobl yn teimlo'r un peth, ac mae angen i ni rannu mwy.

"Y tro cyntaf nes i sylwi fod gen i ddylanwad oedd pan oedd gen i arddangosfa yng Nghaernarfon a roedd ciw i lawr y stryd i weld fy ngwaith.

"Fe wnaeth hyn fy ysbrydoli i gynnwys negeseuon positif yn fy ngwaith. Mae hefyd yn holl-bwysig mod i'n credu fy neges fy hun os ydw i eisiau ysbrydoli eraill."

Wrth brofi bywyd gyda Niki, merch ifanc lwyddiannus sydd â dylanwad a phŵer, mae'n amlwg nad yw'r cyfan wedi mynd i'w phen.

Wrth i'w dylanwad dyfu mae hi am ei ddefnyddio er budd, nid yn unig er elw, yn enwedig wrth rhannu ei phrofiadau personol â materion iechyd meddwl.

Yn Niki Pilkington: Fy mywyd fel dylanwadwr gwelwn berson ysbrydoledig sy'n profi fod gweithio'n galed â cael gwerthoedd cryf yn talu ar eu ganfed, hyd yn oed mewn byd modern llawn gobeithion ffug.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?