S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pobol Pontypridd yn cael cyfle i leisio barn ar S4C

Diweddariad - 18 Chwefror 2020

Yn sgil y tywydd garw yn ddiweddar, rydym wedi penderfynu gohirio Noson Gwylwyr S4C oedd i fod i'w gynnal ym Mhontypridd ar nos Iau 20 Chwefror.

Mi fydd Noson Gwylwyr S4C ym Mhontypridd nawr yn cael ei gynnal ar nos Fawrth 31 Mawrth 2020.

Nid oes newid i weddill y manylion, gan gynnwys yr amser a'r lleoliad.

11 Chwefror 2020

Mae cyfle i drigolion Pontypridd a'r ardal gael dweud eu dweud ar raglenni a gwasanaethau S4C mewn digwyddiad cyhoeddus y mis hwn.

Mae'r sianel yn cynnal Noson Gwylwyr yng Nghanolfan Gynadledda, Prifysgol De Cymru, Trefforest ar nos Iau 20 Chwefror am 7.00yh.

Bydd sawl aelod o dîm rheoli a staff S4C wrth law i groesawu gwylwyr i'r digwyddiad rhad ac am ddim yma.

Hoffech chi weld mwy o raglenni ar gyfer pobl sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf?

Wedi mwynhau y rhifyn diweddar o Cynefin a wnaeth ddatgelu fod y James Bond gwreiddiol wedi'i eni ym Mhontypridd?

Ydych chi'n hoffi darllediadau chwaraeon y sianel? A yw'r gwasanaeth ar gyfer dysgwyr a'r ddarpariaeth is-deitlau yn ddigonol?

Ac a oes digon o wasanaethau ar-lein? Dyma'r math o gwestiynau y gallwch eu gofyn wrth swyddogion S4C ac aelodau Bwrdd Unedol y sianel.

Mi fydd Prif Weithredwr S4C, Owen Evans, Cyfarwyddwr Cynnwys, Amanda Rees, Cadeirydd Dros Dro, Hugh Hesketh Evans, a chomisiynwyr cynnwys y sianel yno i wrando ar sylwadau ac awgrymiadau y cyhoedd.

Dywedodd Hugh Hesketh Evans: "Mae S4C yn wasanaeth darlledu cyhoeddus felly mae'n hanfodol ein bod ni'n gwrando ar lais y gwylwyr.

"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r cyhoedd i Brif Neuadd Canolfan Gynadledda'r Brifysgol i gael trafodaeth onest ac agored am raglenni a gwasanaethau'r sianel, ac i glywed beth fydden nhw'n dymuno gweld yn y dyfodol."

Bydd staff S4C yn awyddus i glywed barn y bobl am raglenni'r sianel. Bydd hefyd cyfle i drafod y sianel ar-lein, Hansh, y gwasanaeth ar alw S4C Clic, a holl sianeli cyfryngau cymdeithasol y sianel.

Cynhelir y noson yn y Gymraeg a bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael i unrhyw un sydd angen. Mae'n rhad ac am ddim i'w fynychu.

Os hoffech chi fynychu'r Noson Gwylwyr neu i glywed mwy amdano, ffoniwch 01352 754212 neu ebostiwch nosongwylwyr@s4c.cymru.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?