S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gruffydd Wyn yw enillydd Cân i Gymru 2020

29 Chwefror 2020

Y gân Cyn i'r Llenni Gau gan Gruffydd Wyn yw enillydd Cân i Gymru 2020.

Cafodd Cyn i'r Llenni Gau gan Gruffydd Wyn o Amlwch ei dewis yn enillydd trwy bleidlais gyhoeddus fyw gan wylwyr y rhaglen Cân i Gymru 2020 ar S4C heno (29 Chwefror) yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

Mae Gruffydd Wyn yn berfformiwr profiadol a daeth i amlygrwydd ar y gyfres Britains Got Talent pan gyrhaeddodd y rowndiau olaf ac ennill golden buzzer y beirniad Amanda Holden

"Dwi wrth fy modd mod i wedi ennill, a methu coelio'r peth i ddweud y gwir! Diolch i bawb wnaeth bleidleisio. Roedd y gân yma i fy Nain a fu farw'n ddiweddar, a dwi wedi gweld bywyd yn anodd iawn ers ei cholli. Dwi'n gobeithio y bydda'i hi yn browd iawn ohona' i heno."

Cafodd cystadleuaeth 2020 ei lansio nôl ym mis Tachwedd 2019 gyda'r dyddiad cau ar 3 Ionawr.

Dewisodd panel o bedwar beirniad; Bryn Fôn, Georgia Ruth, Ani Glass a Owain Gruffudd Roberts - yr wyth cân a oedd yn y rownd derfynol ar y rhaglen Cân i Gymru 2020.

Ond heno, y cyhoedd gafodd y gair olaf trwy bleidleisio am eu hoff gân yn ystod y rhaglen fyw.

Mae Gruffydd Wyn yn ennill tlws Cân i Gymru 2020, gwobr o £5,000 a'r cyfle i gystadlu yn yr Ŵyl Ban-geltaidd yn Iwerddon ym mis Ebrill.

Pan Fyddai'n Wythdeg Oed gan Rhydian Meilir a Jacob Elwy oedd y gân a gipiodd yr ail a gwobr o £2,000 a Morfa Madryn gan Alistair James oedd yn drydydd â gwobr o £1,000.

Dywedodd Siôn Llwyd o Avanti Media, sy'n cynhyrchu'r rhaglen ar ran S4C fod cystadleuaeth eiconig Cân i Gymru wedi tynnu sylw unwaith eto at faint o dalent cerddorol sy'n bodoli yng Nghymru.

"Llongyfarchiadau i Gruffydd Wyn ac i bob un o'r perfformwyr a'r cyfansoddwyr sydd wedi cymryd rhan yng Nghân i Gymru eleni - mae wedi bod yn noson anhygoel. Mae safon yr artistiaid heno yn argoeli'n dda ar gyfer dyfodol Cân i Gymru a dyfodol cerddoriaeth Gymraeg," meddai Siôn.

Gallwch ail-fyw holl gyffro noson Cân i Gymru 2020, ar alw ar S4C Clic s4c.cymru/clic, BBC iPlayer a llwyfannau eraill. Cynhyrchiad Avanti Media ar gyfer S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?