S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Noson Gwylwyr S4C Aberystwyth wedi ei chanslo

Diweddariad - 16 Mawrth 2020

Mae Noson Gwylwyr S4C ar ddydd Mercher, Mawrth 18 wedi cael ei chanslo oherwydd pryderon am Covid-19.

Ond bydd modd i wylwyr y sianel holi'r Prif Weithredwr Owen Evans a'r Cyfarwyddwr Cynnwys Amanda Rees dros ddigwyddiad Facebook Live.

Bydd hyn yn digwydd ar dudalen Facebook S4C am 6.00 nos Fercher 18 Mawrth 2020.

Meddai Prif Weithredwr Owen Evans: "Ar ôl asesiad risg gan S4C, penderfynwyd, yn anffodus, canslo Noson Gwylwyr yn Aberystwyth. Iechyd a lles y cyhoedd yw ein blaenoriaeth ni.

"Ond rydym dal yn awyddus iawn i glywed gan bobl. Mae S4C yn wasanaeth darlledu cyhoeddus felly mae'n hanfodol ein bod ni'n gwrando ar lais y gwylwyr.

"Mae croeso i bawb cysylltu â ni dros Facebook Live i holi cwestiynau ac i rannu beth fydden nhw'n dymuno gweld ar y sianel yn y dyfodol."

Mae croeso i bobl gysylltu ymlaen llaw drwy yrru cwestiwn at Gwifren Gwylwyr S4C sef gwifren@s4c.cymru, 0370 600 4141 neu wrth gwrs drwy Facebook Messenger.

5 Mawrth 2020

Mae cyfle i drigolion Aberystwyth a'r ardal gael dweud eu dweud ar raglenni a gwasanaethau S4C mewn digwyddiad cyhoeddus y mis hwn.

Mae'r sianel yn cynnal Noson Gwylwyr yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth ar nos Fercher 18 Mawrth am 7.00yh.

Bydd sawl aelod o dîm rheoli a staff S4C wrth law i groesawu gwylwyr i'r digwyddiad rhad ac am ddim yma, gan gynnwys y Prif Weithredwr, Owen Evans, sy'n enedigol o'r dref ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Penweddig.

Dewch i roi eich barn am gynnwys y sianel.

Wnaethoch chi fanteisio ar y cyfle diweddar i fod yn rhan o gynulleidfa byw Cân i Gymru neu Gwobrau'r Selar?

Ydych chi'n hoffi'r darllediadau chwaraeon?

A yw'r gwasanaeth ar gyfer dysgwyr a'r ddarpariaeth is-deitlau yn ddigonol?

Ac a oes digon o wasanaethau ar-lein?

Ydy'r ffordd ry'n ni'n cysylltu â'n gwylwyr yn effeithiol?

Dyma'r math o gwestiynau y gallwch eu gofyn wrth swyddogion S4C ac aelodau'r Bwrdd Unedol.

Yn bresennol ar y noson i wrando ar sylwadau ac awgrymiadau y cyhoedd gyda'r Prif Weithredwr Owen Evans bydd Cyfarwyddwr Cynnwys, Amanda Rees, Cadeirydd Dros Dro, Hugh Hesketh Evans, a chomisiynwyr cynnwys y sianel.

Dywedodd Owen Evans: "Rwy'n edrych ymlaen i ddychwelyd i fy nhref enedigol, i gael sgwrs onest ac agored gyda phobol Aberystwyth am raglenni a gwasanaethau'r sianel.

"Mae Aberystwyth yn dref sy'n cwmpasu barn nifer o garfanau gwahanol – yn bobl trefol, gwledig, busnes, ffermwyr ac ysgolheigion felly dwi'n edrych mlaen yn fawr at fynd nôl yno i sgwrsio gyda'r bobl leol.

"Mae S4C yn wasanaeth darlledu cyhoeddus felly mae'n hanfodol ein bod ni'n gwrando ar lais y gwylwyr. Mae croeso i bawb ddod i'n gweld ni yng Nghanolfan y Morlan i glywed beth fydden nhw'n dymuno gweld yn y dyfodol."

Bydd cyfle i drafod rhaglenni, y sianel ar-lein, Hansh, y gwasanaeth ar alw S4C Clic a holl sianeli cyfryngau cymdeithasol y sianel.

Cynhelir y noson yn y Gymraeg a bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael i unrhyw un sydd angen.

Os hoffech chi fynychu'r Noson Gwylwyr neu i glywed mwy amdano, ffoniwch 01352 754212 neu e-bostiwch nosongwylwyr@s4c.cymru.

Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal yn yr iaith Gymraeg ac yn rhad ac am ddim i'w fynychu.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?