S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfnod Coronafeirws trwy lygaid plant Cymru

5 Mai 2020

Y chwerthin, y dagrau, y dadlau a'r cariad - sut bydd plant Cymru yn cofio'r cyfnod Coronafeirws yn y blynyddoedd i ddod? Wel, yn ôl Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru, y pethau bychain fydd yn aros gyda nhw, sef gwneud gwaith ysgol mewn pyjamas a dysgu Nain sut i snapchatio!

Mae Gruffudd wedi ysgrifennu cerdd arbennig o'r enw 'Hyn', sydd yn adlewyrchu teimladau plant a phobl ifanc a sut, efallai, byddant yn cofio'r adeg rhyfedd yma. Mae Griff Lynch o Kreu Media wedi cynhyrchu ffilm fer gyda phlant yn darllen rhannau o'r gerdd. Bydd ffilm y gerdd 'Hyn' yn cael ei darlledu heno ar S4C am 6.58.

"Roeddwn i ishio creu cerdd am y cyfnod yma oedd yn adlewyrchiad gonest o brofiadau pobol. Roeddwn i hefyd ishio cynnwys tipyn o hiwmor yn y gerdd ond heb or-ramantu'r profiad chwaith," meddai Gruffudd.

"Yr hyn sydd yn rhyfedd am y lockdown ydi er bod pawb ar wahân rydan ni gyd yn mynd drwy brofiadau go debyg. O hynny y daeth y syniad o greu cerdd ar ffurf rhestr. Dwi'n gobeithio y bydd pawb yn gweld elfennau o'u profiadau nhw yn cael ei adlewyrchu yn y gerdd."

Felly sut mae Gruff yn ymdopi o dan y cyfyngiadau Coronafeirws: "Mae'r lockdown yn sicr wedi bod yn gyfnod heriol fel ag y mae o i bawb sy'n ceisio cyd-bwyso gofal plant a gwaith. Ond fel mae'r gerdd yn ei ddweud, mae rhywun yn ceisio cymryd pleser yn y pethau bach!"

Mae Comisiynydd Rhaglenni Plant S4C Sioned Wyn Roberts yn esbonio'r syniad tu ôl i gomisiynu 'Hyn': "Mae S4C yn cefnogi cynllun Bardd Plant Cymru mewn partneriaeth gyda Llenyddiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.

"Fel rhan o'r cynllun mae Gruffudd yn mynd mewn i ysgolion er mwyn cynnal gweithdai, perfformiadau a gweithgareddau i blant a hefyd yn darparu cerddi. Yn amlwg mae hyn wedi bod yn amhosib gyda thelerau lockdown - felly'r syniad oedd i Gruffudd ysgrifennu cerdd i gyrraedd plant Cymru yn ystod lockdown a bod S4C yn comisiynu ffilm fer."

"Mae'n rhyfedd beth sy'n digwydd ac efallai bod yn gyfnod brawychus i blant felly roeddwn ni'n reit awyddus bod y gerdd yn llawn hwyl ac yn obeithiol. Mae'n adlewyrchu bywyd pob dydd ac yn cynnig neges o obaith gan bwysleisio bydd y cyfnod yma yn dod i ben."

Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: "Rwy'n falch iawn y bydd 'Hyn', cerdd gomisiwn newydd gan Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru, yn cael ei darlledu am y tro cyntaf ar S4C heno. Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae barddoniaeth yn ffordd i ddod â phobl at ei gilydd a chreu cysylltiadau, felly rydym yn ddiolchgar i S4C, pob un o bartneriaid Cynllun Bardd Plant Cymru – heb anghofio'r plant arbennig yn y fideo – am ddod â'r gerdd hon yn fyw."

Meddai Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: "Mae prosiect Bardd Plant Cymru yn un sy'n cael ei gyd-ariannu gan Is-adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru, a dwi'n croesawu cyhoeddi y gerdd hon gan Gruffudd Eifion Owen. Mae'n gerdd hyfryd sydd yn llawn hwyl, yn disgrifio bywyd bob dydd yn ystod y cyfnod gwahanol yma, a hefyd yn dweud yn eitha syml y daw eto haul ar fryn. Mae barddoniaeth yn ddull gwych o fynegi teimladau ar adeg fel hwn ac rwy'n gobeithio bydd yn ysbrydoli plant i ysgrifennu cerddi eu hunan."

Caiff Cynllun Bardd Plant Cymru ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru a'i gefnogi gan S4C, Llywodraeth Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.

Hyn Dydd Mawrth 5 Mai 6.58, S4C Isdeitlau Saesneg Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill Cynhyrchiad Kreu ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?