S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Tipyn o Stad – tipyn o hit!

12 Awst 2020

Mae'r diwylliant gwylio ar-alw wedi bathu term newydd sbon yn y Gymraeg - 'binjio'. Yn syml, mae'n disgrifio'r weithred o wylio nifer o benodau cyfres deledu yn syth ar ôl ei gilydd. Ond ymysg Netflix, Prime, Disney+ a'i debyg, mi safai S4C Clic fel yr unig blatfform sy'n cynnig cyfle i 'binjio' ar rai o gyfresi Cymraeg mwyaf eiconig ein dydd.

Un o'r cyfresi sydd wedi tanio diddordeb na welodd mo'i debyg o'r blaen yw Tipyn o Stad. Ers rhai misoedd, mae cyfresi un i chwech o'r ddrama a ffilmwyd yn y 2000au cynnar wedi cyrraedd Clic. Wedi hir ymaros, mi fydd cyfres 7 - sef y gyfres ola' – yn cyrraedd ar 14 Awst.

Ond beth sydd wedi achosi i'r gyfres hon o'r archif dderbyn cymaint o sylw? Mi gawsom ni sgwrs gyda tri sydd wedi 'binjio' arni dros y misoedd dwetha' i ganfod mwy – Ffion Emyr, Gethin Griffiths a Marged Gwenllian.

RHYBUDD – SBOILARS!

Ffion, pa stori neu olygfa sydd fwya' cofiadwy i ti ar Tipyn o Stad?

Sut fedra'i ddewis?! Mae 'na chwip o sdori newydd ym mhob cyfres. Sdori Denise a'i phroblem cyffuria syth bin ar gychwyn cyfres un. Mi oni'n gegrwth pan ddatguddiwyd pwy oedd tad babi Cheryl!!! Y TÂN mawr efo Dafydd bach! Bob dim odd y snichyn Jack na'n neud yn mynd dan 'ngrhoen i. Marwolaeth Kev - OMB! A'r olygfa eiconic na o Sheila yn y car a bron a llad Robin. Fel da chi'n gweld... ma' 'na ORMOD i ddewis.

Gethin, beth amdana ti?

Yn eithaf od, dwi'n cofio gwylio'r cyfresi olaf pan oeddan nhw'n cael eu gwneud yn wreiddiol, er mod i rhy ifanc mae'n siwr. Er nad oedd o'n fawr o olygfa... nes i fwynhau wyneb Neil pan ffeindiodd o allan bod Keith yn gweld y ddynes o'r siop oedd llawer hŷn na fo.

Pa stori sy'n aros yn y cof i ti, Marged?

Neshi wirioneddol fwynhau'r stori hefo Mei a Ceri-Ann, gan ei bod hi'n adeiladu am amser hir. Mei yn mynd yn fwy rhyfedd bob golygfa, a doedd genai'm syniad i ba gyfeiriad y base hi'n mynd! Pan ddoth hi i'w phinacl, hefo'r sosban jîps yn cal ei thaflu a John Ogwen ar lawr, fuodd bron 'fi ddisgyn oddi ar y soffa.

Pwy 'di dy hoff gymeriad di, Ffion?

Linda - reit o'r cychwyn cynta un. Ma na ochor Gurkha iddi, chydig o Stud a Rita, a hyd yn oed chydig o Gladys Trwyn! Digon o sass, yn feddylgar, clen, ond hefyd yn fysneslud IAWN! Rhaid deud, mi oni'n gytud pan adawodd hi am Ganada.

Gethin, pwy 'di dy hoff gymeriad di?

Ers talwm, mi oeddwn i'n hoff o gymeriadau cryf, doniol fel Bev, Tony ac Ian Flash ond y tro hwn, dwi'n gwerthfawrogi'r cymeriadau eraill hefyd. Dwi wrth fy modd hefo Keith, sydd yn gwybod cyfrinachau pawb, a dwi'n meddwl bod Denise wedi mynd yn LLAWER rhy gynnar.

Marged, oes gen ti hoff gymeriad?

Charlie heb os. Y cymeriad anwylaf o bell ffordd, a'i gariad tuag at y caneris y cariad fwyaf pur sy'n bod.

Ffion, beth sydd mor arbennig am Tipyn o Stad?

Straeon gafaelgar efo cymeriadau boncyrs ond yn gredadwy. A bod ein bywydau ni MOR ddiflas ar hyn o bryd, ma' 'na gymaint o gyffro a gossip gwahanol ym mhob pennod ma'n rhoi chydig o ecseitment i ni tra'n sdyc yn ty!

Gethin, pam bod y gyfres mor boblogaidd?

Mae'r ffaith ei fod o rhwng opera sebon a drama yn golygu bod y straeon hefo dechrau a diwedd iddyn nhw, ond eto'n ddigon hir i dy gadw di wedi dy hoelio i'r sgrin. Mae o mor hawdd i wylio oriau ac oriau ohono fo, sydd yn siwtio'r tueddiad yma rwan i 'binjo' – er nad oedd modd gwneud hynny'n wreiddiol!

Marged, be ti'n feddwl?

Dwi'n meddwl mai'r catalog anhygoel o actorion ydy'r prif ffactor i fi. A cyfnod byr sydd gan rai actorion arno fo – ma' nhw'n mynd a dod gyda'r cyfresi, fel bod modd gwasgu llwyth o storylines i mewn heb orfod defnyddio'r un teuluoedd, ond bod y Gurkhas yn ei chanol hi bob tro.

Os fase ti Ffion cael actio unrhyw gymeriad ar Tipyn o Stad, pwy fase hi/fo?

Rita cyfres 2, pan odd hi a Stud yn edrych fel Danny Zukos o Grease yn i leathers o gwmpas Dre. Calad, bygythiol- no messing.

Pa gymeriad fase ti, Gethin?

Neil. Cadw trefn ar bawb a gwylio'r holl chaos o 'nghwmpas i.

Marged, pwy fase ti'n ddewis?

Sandra – yr extra sydd ond yn cal ryw un llinell bob yn hyn a hyn, ond mae'r llinellau hynny yn anhygoel o sassy bob tro.

Ac yn ola, pe byddai Tipyn o Stad yn neud comeback, be hoffi di Ffion ei weld yn digwydd?

Owff - lle dwi'n dechra'! Bo' Linda yn dod nol o Ganada a'n ail agor Linda's ar ei liwt ei hun, efo Stud yn dod allan o carchar a'n rhoi cymorth iddi yn Dj-o. Heather a Stud yn mynd nol at eu gilydd - honna di'r love story ma' pawb isho! Be ddigwyddodd i Val ar ol i 6 mis hi'n America?! Sud ma Iwan a Mair Lewis yn Nulyn? Be nath Hughes (Duff/ Wyn) ar ol gadael yr heddlu, a lle ma Gwenan bach arni? Lle ma Beth? Di Angie dal yn Tenerife efo Sheila? Ydi Rhodri 'di graddio a'n athro bellach? Ma gen i gymaint o gwestiynna sydd angan i 'atab. Dwi angan cyfres 7... ac 8...

Gethin, be fase ti'n hoffi weld?

Ma' Dre (Caernarfon) 'di newid lot ers hynny, ac mi faswn i ella'n licio petai'r rhaglen yn adlewyrchu sut mae pethau heddiw. Ond hefyd, mi faswn i'n licio gweld plant yr holl gymeriadau yma'n tyfu i fyny a bod yr un peth a'u rhieni nhw. Mwy o'r chaos. Swn i'n licio sa Denise yn gwneud Bobby Ewing a dod 'nol yn fyw.

Marged, beth amdana ti?

Mae cerddoriaeth Gymraeg ymlaen yn y cefndir bron ym mhob golygfa – 'se'n wych tase nhw'n ffilmio'r cymeriadau yn mynd i ryw gig yng Nghaernarfon ac achosi hafoc go iawn!

Mae holl gyfresi Tipyn o Stad ar gael i'w gwylio ar s4c.cymru/clic.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?