S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Merched Parchus ar restr fer Gwobrau Digidol Broadcast

11 Medi 2020

Mae drama S4C Clic, Merched Parchus, wedi ei henwebu am Wobr Ddrama Orau yng Ngwobrau Digidol Broadcast 2020.

Mae'r gwobrau yn dathlu'r cynnwys, a sianelu gorau yn y maes digidol gan wobrwyo'r gwaith mwyaf arloesol, rhyngweithiol a chreadigol. Mae'r gwobrau yn cynnwys rhaglenni, gwefannau, apiau, gemau ac yn cael eu cyflwyno gan Broadcast, sef y prif frand ar gyfer y diwydiant darlledu yn y DU.

Cyfres ffraeth, onest a thywyll yw Merched Parchus a wireddwyd gan rai o dalentau newydd mwyaf cyffrous Cymru sef Hanna Jarman a Mari Beard - a ysgrifennodd y gyfres ac a fu'n actio y ddwy brif gymeriad Carys (Hanna) a Lowri (Mari).

Mae'r gyfres a saethwyd yng Nghaerdydd gan cwmni cynhyrchu ieie productions, yn adrodd hanes Carys sy'n gwneud ei gorau i ddod dros dor-galon ac yn benderfynol o ail-greu ei hun yn oedolyn go iawn.

Ond gyda llais mewnol Carys yn mynegi ei gwir deimladau, mae ei hobsesiwn tywyll gyda phodlediadau Americanaidd am lofruddiaethau graffig yn creu ffantasiâu gwaedlyd tra'i bod hi'n brwydro ei hofnau, #lifegoals a'i hanallu i gymryd cyfrifoldeb am ei hapusrwydd ei hun.

Roedd y gyfres arloesol hon y ddrama gyntaf i ymddangos ar-lein yn gyntaf ar ffurf bocs set ar S4C Clic - llwyfan digidol S4C. Cafodd y gyfres ei darlledu wythnos yn hwyrach ar deledu traddodiadol.

Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: Rydym yn arbennig o falch fod Merched Parchus wedi ei henwebu ar gyfer y wobr Ddrama Orau. Mae'n ddrama afaelgar a dewr - un a gomisiynwyd i geisio cyrraedd cynulleidfa amgenach na ffyddloniaid y brif sianel. Roedd ei rhyddhau hi fel bocs set ar Clic yn gyntaf yn arbrawf i ni hefyd - un sydd wedi profi pwysigrwydd rhyddhau a gwerthuso gwylio ar y llwyfannau digidol, yn enwedig wrth geisio denu cynulleidfa iau. Mae Hanna, Mari a'r cwmni cynhyrchu ieie productions yn llwyr haeddu cael eu gwobrwyo am eu gwaith arloesol."

Mae Hanna a Mari hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer categori Torri Trwyddo ac Awdur Bafta Cymru am Merched Parchus.

Meddai Mari Beard am yr enwebiad Broadcast: "Ryn ni yn eithriadol o hapus ein bod ni wedi cal ein henwebu. Mae yna ychydig o deimlad imposter syndrome i rhannu yr un list a pobl ryn ni yn edmygu yn fawr iawn. Dwi'n browd iawn o'r hyn dwi a Hanna wedi'i gyflawni gyda Merched Parchus a ma hi'n deimlad gwych i wbod bod pobl eraill wedi hoffi ein gwaith. Piti na gewn ni fynd i'r seremoni eleni, dwi wastad wedi bod eisiau mynd i seremoni wobrwyo!"

Meddai Hanna: "Mae'n teimlad rili cyffrous bod Merched Parchus ymhlith y dramau eraill brilliant yn y categori! Mae'n teimlo'n lyfli bod pobl creadigol eraill sy'n gweithio yn y diwydiant, yn meddwl bod ein gwaith ni werth cael ei cydnabod. Mae'n neis cal y teimlad – 'O! 'nathon ni rwbeth cool 'nath pobl fwynhau."

Fe fydd enillwyr Gwobrau Digidol Broadcast yn cael eu datgelu mewn seremoni rithiol ar 14 Hydref 2020.

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?