S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Y tymor newydd Guinness PRO14 ar S4C

23 Medi 2020

Bydd S4C yn dilyn holl ranbarthau rygbi Cymru yn ystod y tymor newydd Guinness PRO14 gyda gemau byw ac ailddarllediadau llawn drwy gydol y tymor.

Bydd y gyfres boblogaidd Clwb Rygbi yn dangos gemau o phob rownd o'r tymor arferol, gyda'r wyth gêm byw cyntaf wedi eu cadarnhau.

Dulyn fydd y lleoliad ar gyfer y gêm byw cyntaf wrth i'r Dreigiau herio'r pencampwyr Leinster ar nos Wener 2 Hydref, gyda'r gic gyntaf am 8.15pm.

Ar nos Sadwrn 10 Hydref, bydd criw Clwb Rygbi ym mhrif ddinas Cymru i ddangos y gêm rhwng Gleision Caerdydd a Connacht (7.35pm), cyn darlledu Benetton v Scarlets ar nos Wener 23 Hydref (8.15pm).

Ar ddydd Sul 1 Tachwedd, bydd y gêm rhwng Dreigiau a Munster yn cael ei ddarlledu'n fyw (2.00pm), gyda'r gêm rhwng Scarlets a Zebre yn cael ei ddangos wythnos yn diweddarach ar nos Sul 8 Tachwedd (5.15pm).

Ar brynhawn Sul 15 Tachwedd, bydd y Gweilch yn herio Munster oddi cartref (2.45pm) gyda'r gêm yn fyw ar S4C.

Bydd modd gweld y gêm rhwng Leinster a Gleision Caerdydd ar nos Sul 22 Tachwedd (5.15pm), cyn y darllediad byw o Scarlets v Leinster ar nos Sul 29 Tachwedd (5.15pm).

Bydd rhai o gemau eraill y rhanbarthau yn cael eu hail-ddangos bob penwythnos; ar benwythnos agoriadol y tymor, bydd Scarlets v Munster yn cael ei ddangos am 10.00pm ar nos Sul 4 Hydref, a Chaeredin v Gweilch ymlaen am 10.00pm ar nos Lun 5 Hydref.

Mae Clwb Rygbi yn cael ei gynhyrchu gan BBC Cymru.

DIWEDD

Gemau byw Guinness PRO14 ar Clwb Rygbi

Leinster v Dreigiau - Gwener 2 Hydref - CG 8.15pm

Gleision Caerdydd v Connacht - Sadwrn 10 Hydref - CG 7.35pm

Benetton v Scarlets - Gwener 23 Hydref - CG 8.15pm

Dreigiau v Munster - Sul 1 Tachwedd - CG 2.00pm

Scarlets v Zebre - Sul 8 Tachwedd - CG 5.15pm

Munster v Gweilch - Sul 15 Tachwedd - CG 2.45pm

Leinster v Gleision Caerdydd - Sul 22 Tachwedd - CG 5.15pm

Scarlets v Leinster - Sul 29 Tachwedd - CG 5.15pm

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?