S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cymru noir yn nôl ar y sgrin gyda chyfres newydd o Craith

17 Medi 2021

Gydag ias Hydrefol yn yr awyr wrth i'r dyddiau fynd yn fyrrach, mae'n amser perffaith i fwynhau cyfres newydd sbon o'r ddrama dditectif atmosfferig ac ysgytwol, Craith.

Bydd y gyfres boblogaidd a threiddgar, sy'n adnabyddus am godi arswyd, i'w gweld am y tro cyntaf ar S4C ar nos Sul, Hydref 10, a bydd chwe phennod i'r gyfres - y drydedd ac yr olaf.

Dywedodd Sian Reese-Williams, sy'n chwarae rhan y brîf gymeriad DCI Cadi John:

"Yn y ddwy gyfres gyntaf ni'n gwneud i chi ofyn, ydi rhywun yn cael eu geni'n ddrwg neu odi pethau'n digwydd iddyn nhw, sy'n gwneud nhw wneud pethau drwg. Yn y gyfres yma, mae'r thema fwy cryf byth. Mae'n emosiynol iawn."

Bydd y ddrama yn mynd a ni yn ôl i Eryri, i gysgod mynyddoedd llwm ardal y llechi.

Meddai Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C: "Unwaith eto, bydd popeth yn digwydd yn yr ardaloedd cyfagos i gartref Cadi a bydd y dirwedd yn ganolog i'r plot. Mae'r lleoliadau trawiadol yn cyfrannu at allu'r ddrama i afael ynddoch chi a gwneud i chi deimlo eich bod yng nghanol y cyfan."

Mae'r golygfeydd prydferth ond garw yn nodweddiadol o 'Cymru noir' - genre o ddramâu trosedd sydd wedi'u gosod yn nhirwedd unigryw Cymru.

Meddai Sian: "Fi'n credu fod y syniad (o Cymru Noir) yn wych, a'r cam cyntaf yw e mewn ffordd. Pam byddai unrhyw un yn dweud fod rhaglenni sydd wedi'i cynhyrchu yng Nghymru yn cyrraedd America, Canada, Finland ac Awstralia ddim yn beth positif?.

Mae'r ddrama yn cael ei ffilmio gefn wrth gefn yn Gymraeg ac yn Saesneg. Cynhyrchir y fersiwn Gymraeg, Craith, ar gyfer S4C, tra bod y fersiwn Saesneg, Hidden, yn cael ei chynhyrchu ar gyfer BBC Cymru.

Meddai Sian: "Dy ni'n wlad fach iawn a dy ni'n gwneud rhaglenni o safon arbennig.

"Rwy'n cal negeseuon ar Twitter gan bobl o Arizona, Auckland, Finland a dros y lle i gyd. Mae pobl o bob man yn dwlu ar Craith, dweud fod nhw heb weld dim byd tebyg o'r blaen.

"Fi'n absolwtli dwlu ar 'na! Fi'n credu bod Cymru wedi cynhyrchu pethau anhygoel yn y pump i wyth mlynedd diwethaf a fi mor falch i fod yn rhan ohono."

Wedi'i gynhyrchu gan Severn Screen, bydd Craith yn cael ei ddarlledu yn y slot ddrama am 9.00 nos Sul, a bydd yn siŵr o gadw'r gynulleidfa ar flaen eu seddi.

Y tro hyn, bydd DCI Cadi John (Sian Reese-Williams) a DS Owen Vaughan (Siôn Alun Davies) yn cael eu galw i ymchwilio pan ddarganfyddir corff ffermwr lleol mewn nant.

Ac wrth gwrs, byddwn yn cadw'n dryw i'r drefn o ofyn 'pam' yn hytrach na 'phwy' sydd wedi cyflawni'r drosedd greulon a threisgar.

Ychwanegodd Sian: "Bydd y gyfres yma yn gwneud ichi gwestiynu mwy nag erioed, pa mor bell fyddech chi'n mynd i amddiffyn eich teulu, eich gwaed, eu dyfodol?".

Bydd gwylwyr ledled Prydain yn falch o'r cyfle i wylio'r gyfres ar BBC iPlayer, cyn i Hidden ddarlledu ar BBC One Wales yn 2022.

Bydd cyfresi un a dau o Craith ar gael ar S4C Clic fel Bocs Set o ddydd Mercher 22 Medi, i roi cyfle i fwynhau hynt a helynt Cadi a'i phartner DS Vaughan o'r cychwyn cyntaf.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?