S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dal y Mellt yn dod yn fyw ar ffurf cyfres ddrama

18 Chwefror 2022

Mae S4C wedi cadarnhau mae trosiad o'r nofel boblogaidd, Dal y Mellt, fydd un o'u comisiynau drama ddiweddaraf.

Yn seiliedig ar y llyfr o'r un enw, mae'r awdur o Drawsfynydd, Iwan 'Iwcs' Roberts', hefyd yn un o'r cynhyrchwyr sy'n gyfrifol am ddod â'r nofel yn fyw.

Er na fydd Dal Y Mellt yn ymddangos ar S4C nes yr Hydref, mae'r broses gynhyrchu eisoes ar waith gyda'r criw wrthi'n ffilmio yng Nghaerdydd, cyn symud i'r gogledd, i Ddulyn ac yna Soho yn Llundain.

"Mi wnes i gyhoeddi fy nofel gyntaf, Dal y Mellt, yn 2019," meddai Iwcs. "O ni'n gwybod yn fy nghalon pan o ni'n sgwennu fod hi'n nofel weledol iawn. Drama oedd hi yn fy mhen cyn i mi ddechrau. Peintio hefo geiriau oeddwn i mewn ffordd.

"O ni wedi dechrau sgwennu yn bell cyn hynny wrth gwrs, pan o ni'n gweithio ar Pobol Y Cwm. Yna, yn 2016 gofynnodd Llŷr Morus, sy'n gynhyrchydd gyda Vox Pictures, i gael gweld y manuscript.

"Mae gan Llŷr glust â llygaid craff - o ni wrth fy modd pan ddywedodd o fod hi'n chwip o nofel a bod ganddo ddiddordeb ei throsi hi.

"Felly, mi wnes i sgwennu'r gyfres ar ben fy hun, gan fynd nôl a 'mlaen at Llŷr dros gyfnod o flwyddyn. Mae'r holl broses yn dipyn o learning curve.

Iwan 'Iwcs' Roberts

"Daeth Huw Chiswell on board fel cyfarwyddwr. Neu Huw Chisell fel dwi'n ei alw o - achos oedd o'n torri golygfeydd cyfan allan yn ystod y broses o olygu'r sgriptiau!

"Er fod o'n anodd gwneud newidiadau weithiau oherwydd fy 'mhlentyn i' ydio, Huw sy'n iawn wrth gwrs ac mae'n fraint cael gweithio hefo fo. Dwi'n ffodus ofnadwy o gael gweithio hefo pobl sy'n lot mwy profiadol yn y maes.

"Mae'r criw technegol yn ffantastig ac maen nhw'n rhoi eu calon mewn iddo. Da ni'n lwcus iawn efo'r cast sydd wedi cytuno i'w wneud o, mae gen ti; Gwïon Morris Jones fel Carbo, Mark Lewis Jones ydi Mici Ffin, Graham Land sy'n chwarae Les a Siw Hughes yn chware ei fam o, Meri-Jên. Dyfan Roberts ydi Gronw, mae Lois Meleri-Jones yn chwarae Antonia, Owen Arwyn ydi Dafydd Aldo ac mae Ali Yassine yn chwarae Cidw.

"Dwi erioed wedi bod ar shoot mor hapus. Ac fel cynhyrchydd, mae hynny yn deimlad braf iawn."

Felly i'r rhai sydd heb ddarllen y nofel eto, pa fath o gyfres fydd Dal y Mellt?

"Oedd pobl yn gofyn, be fydda ti'n cymharu fo hefo; Peaky Blinders, stwff Guy Ritchie? Naci, dwi isio pobl ddweud, mae'n debyg i Dal y Mellt. Dwi'n grediniol mai drama Gymraeg i bobl Cymru ydi hon, achos mae'r Cymry'n haeddu fo.

"Mae Rhys Ifans yn dweud ar flaen y nofel, 'Taith wyllt i berfeddion byd sy'n troi o dan ein trwynau'. O ni'n trio creu bywyd eithaf real a byrlymus. Sefyllfaoedd mae pobl yn cael eu rhoi i mewn ac maen nhw'n trio ffeindio'i ffordd allan ohoni, a 'does neb yn gwybod yn iawn be sy'n mynd ymlaen.

"O ni'n meddwl fod hwnna'n ddiddorol iawn o ran darllenydd, a dyna dwi'n drio gyfleu rŵan i'r gwylwyr. Felly bydd yr addasiad teledu, sef chwe awr o ddrama, yn dryw iawn i'r nofel."

Dywedodd Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C: "Dyma gomisiwn cyffrous fydd yn dod â rhywbeth ffres ac egnïol i S4C. Mae cast anhygoel sydd â'r gallu i greu drama all y gynulleidfa wir ymgolli ynddi. Trwy sicrhau fod edrychiad ac arddull y gyfres tipyn yn wahanol i'r arfer o ran goleuo, gwisgoedd a props, mae Vox Pictures wrthi'n cynhyrchu gwaith arbennig iawn.

"Dwi methu aros i gyflwyno'r ddrama i'r gwylwyr yn yr Hydref."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?