S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Cyhoeddi enillydd cystadleuaeth Dechrau Canu Dechrau Canmol

28 Chwefror 2022

Mae S4C wedi cyhoeddi mai Eirian Dafydd o Gaerdydd sydd wedi ennill cystadleuaeth cyfansoddi geiriau emyn Dechrau Canu Dechrau Canmol.

A hithau'n flwyddyn fawr i gyfres eiconig S4C Dechrau Canu Dechrau Canmol gyda'r gyfres fytholwyrdd yn dathlu ei phen-blwydd yn 60 oed eleni, yn rhyfedd ddigon 60 ymgais ddaeth i law ar gyfer cystadleuaeth arbennig i gyfansoddi geiriau i emyn newydd.

Llwyddodd Eirian i gipio y wobr o £200, ac yn ôl y beirniaid, Catrin Alun a'r Prifardd John Gwilym Jones er mwyn ennill ei blwy mae'n rhaid i eiriau emyn fod yn gofiadwy, yn brofiad personol ac yn adlewyrchu ein taith ni fel Cristnogion.

"Roedd na un wedi sefyll mas ac wedi apelio o'r dechrau" meddai John Gwilym Jones.

"Mae'r emyn yn sôn am deimlo'r llaw, y llaw sy'n iachau, wel mae rhywbeth fel'na yn gafael ar unwaith yn enwedig yng nghyfnod y pandemig. "

"Fe wnaeth yr emyn yma fy stopio i yn fy nhracs, a dyna'r unig un wnaeth hynny" ychwanegodd Catrin Alun.

"Mae'r mesur yn wahanol iawn ac ar y dechrau doeddwn i ddim yn siŵr os oedd hynny'n broblem, ond na, dwi'n meddwl fod hynna'n fanteisiol achos bydd rhaid cael tôn newydd."

Meddai Eirian Dafydd: "Ro'n i yn ymwybodol bod nifer o Eglwysi wedi cau dros gyfnod y pandemig, ma na aelodau wedi encilio i ffwrdd ac y syniad o ddod yn ôl oedd gen i ddechrau.

"I fi, roedd hynna yn ffitio i mewn gyda dameg y Mab Afradlon – rhywun yn encilio, ond yn dod yn ôl.

"Mae na hefyd brofiad personol yn rhan o'r ail bennill – pan o'n i'n iau fel nes i dreulio sawl cyfnod yn yr ysbyty ac yn ystod y cyfnod yna fe es i i oedfa gyda'r weinidogaeth i iachau.

"A dyna sydd tu cefn i'r geiriau."

Gyda'r geiriau yn ddiogel felly, mae Dechrau Canu Dechrau Canmol nawr wedi cyhoeddi cystadleuaeth newydd i gyfansoddi emyn dôn i gyd-fynd gyda geiriau Eirian Dafydd.

Bydd gwobr o £200 i'r enillydd a'r gobaith yw y bydd y cyfanwaith newydd yn cael ei berfformio ar Dechrau Canu Dechrau Canmol cyn diwedd y gyfres.

Y dyddiad cau yw 29 Ebrill, ac mae'r manylion i gyd ar wefan S4C. Gallwch hefyd weld geiriau buddugol Eirian Dafydd ar y wefan.

https://www.s4c.cymru/cy/cerddoriaeth/dechrau-canu...

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?