S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​S4C yn lansio tair bwrsariaeth newydd i gefnogi talent ddarlledu Cymraeg

11 Mawrth 2022

Mae S4C wedi lansio tair bwrsariaeth newydd er mwyn cefnogi datblygiad talent ddarlledu Cymraeg i'r dyfodol a cheisio denu wynebau newydd i ymuno â'r sector gyfryngau yng Nghymru.

Bydd Bwrsariaeth S4C Chwaraeon yn cefnogi un myfyriwr o gefndir Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig i astudio ar gwrs gradd meistr Darlledu Chwaraeon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Mae'r bwrsariaeth wedi'i gefnogi gan gwmnïau cynhyrchu Rondo a Media Atom.

Bydd S4C hefyd yn cefnogi dwy wobr gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru – un ysgoloriaeth ar gyfer myfyriwr ar y cwrs gradd baglor Actio, ac un bwrsariaeth ar gyfer myfyriwr iau yn eu Stiwdio Actorion Ifanc.

Bydd y ddwy fwrsariaeth gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn benodol ar gyfer myfyrwyr sy'n Ddu, Asiaidd neu lleiafrif ethnig, yn anabl, neu o gefndir economaidd-gymdeithasol di-freintiedig.

Meddai Jason Mohammad sy'n cefnogi bwrsariaeth chwaraeon S4C gyda'i bartner busnes Nathan Blake:

"Rydym mor gyffrous i fod yn gweithio gydag S4C ar y fwrsariaeth hanesyddol hon.

"Mae hon yn foment fawr iawn i'n cwmni newydd JAMS & MR B Productions.

"Rydym wedi ymrwymo i helpu darlledwyr i greu gweithlu amrywiol a chynyddu amrywiaeth wrth wneud rhaglenni ar y sgrin a thu ôl i'r camera.

"Mae S4C wedi bod yn wych wrth weithio gyda ni ar ein huchelgais i helpu i newid bywydau pobl ifanc drwy roi cyfle unigryw iddynt lwyddo ym myd darlledu yng Nghymru."

Ychwanegodd Nathan Blake:

"Mae'r cynllun Bwrsariaeth a gynigir gan S4C, partneriaid a'n cwmni cynhyrchu ein hunain Jams & Mr B yn cyflwyno cyfle sy'n newid bywyd.

"Mae ei chreu yn fan cychwyn a fydd yn arwain at gyfleoedd pellach yn y dyfodol.

"Rydyn ni'n credu y bydd y gronfa addysg ychwanegol hon yn helpu i adeiladu a chreu cydraddoldeb ac amrywiaeth parhaus o fewn y diwydiant dros y blynyddoedd a'r degawdau nesaf.

"Yn unigol gallwn newid bywydau ond gyda'n gilydd gallwn newid y gêm am byth."

Meddai Helena Gaunt, Prifathro Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru:

"Rydym wrth ein bodd bod S4C yn partneru â Choleg Brenhinol Cymru i ddarparu cymorth i fyfyrwyr actio Cymraeg eu hiaith o gefndiroedd a dangynrychiolir.

"Fel Conservatoire Cenedlaethol Cymru, rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn darparu gofod cynhwysol a chroesawgar sy'n denu ac yn meithrin unigolion dawnus o gefndiroedd amrywiol.

"Mae cefnogaeth ar gyfer ysgoloriaethau gan sefydliadau fel S4C yn hanfodol i wella hygyrchedd fel nad yw amgylchiadau ariannol byth yn rhwystr i'r ystod eang o dalentau sy'n dechrau ar eu hyfforddiant diwydiant ar y lefel uchaf."

Meddai Nia Edwards-Behi, Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant S4C:

"Mae creu cyfleoedd fel cynnig bwrsariaethau'n gam bach ond pwysig i gefnogi datblygiad talent dyfodol S4C.

"Mae'n bleser gallu gweithio ar y cyd gyda sefydliadau addysgol, cwmnïau cynhyrchu ac arloeswyr fel Jams & Mr B i sicrhau fod talent Cymru yn cael cefnogaeth hollbwysig ar ddechrau taith gyrfa."

Bydd manylion am ysgoloriaethau S4C gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar gael yn fuan.

Am fwy o wybodaeth am fwrsariaeth Chwaraeon S4C: https://www.s4c.cymru/cy/chwaraeon/page/49841/bwrs...

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?