S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn dychwelyd i 104 Manylder Uwch ar Freeview

22 Mawrth 2022

Bydd S4C yn dychwelyd i sianel 104 mewn Manylder Uwch ar Freeview o 28 Mawrth 2022 ymlaen.

Bydd modd i wylwyr fwynhau S4C mewn Manylder Uwch o 7.00 yh ymlaen ar hyd yr wythnos ac o 2.00 yp ymlaen ar ddyddiau Sadwrn a Sul.

Fe ddaeth gwasanaeth Manylder Uwch S4C i ben yn 2012 yn dilyn toriadau yng nghyllideb y sianel. Ond yn dilyn setliad ariannol newydd mis Ionawr 2022 ar gyfer y cyfnod 2022-2028 a chydweithrediad parod y BBC a Channel 4 mae'r sianel yn dychwelyd i'r llwyfan mwyaf poblogaidd ymysg gwylwyr S4C.

"Rydym yn gwybod fod ein gwylwyr wedi bod yn galw am wasanaeth Manylder Uwch ar Freeview ers peth amser" meddai Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C. "Mae'r galw wedi bod yn arbennig o gryf ymysg cefnogwyr chwaraeon, felly rwy'n falch y bydd mwyafrif helaeth ein chwaraeon nawr ar gael ar 104".

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart: "Mae S4C yn rhan annatod o ddiwylliant Cymru. Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth y DU yn cefnogi'r sianel gyda £88 miliwn y flwyddyn fel ei bod yn parhau i ddarlledu i gannoedd o filoedd o bobl yn yr iaith Gymraeg."

"Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad newydd o £7.5 miliwn y flwyddyn gan Lywodraeth y DU ar gyfer datblygiad digidol S4C i gynorthwyo gyda'i chenhadaeth i gyrraedd cynulleidfa ehangach ar draws ystod o lwyfannau."

Mae S4C wedi bod ar gael mewn manylder Uwch ar Sky, Freesat, Virgin Media ac yn ddiweddar S4C Clic ond mae mwyafrif helaeth y gwylio o S4C ar Freeview.

Dywedodd Siân Doyle: "Rwy'n falch iawn fod S4C yn dychwelyd i sianel 104 Manylder Uwch ar Freeview ac yn ddiolchgar i'r BBC a Channel 4 am eu cymorth i gyflawni hyn. Mae'n hanfodol ein bod yn gallu cynnig y gwasanaeth gorau i'n gwylwyr. Bydd sianel 104 Manylder Uwch yn rhoi cartref sefydlog i S4C ar Freeview ac yn sicrhau ein bod bellach ar Fanylder Uwch ar draws yr holl lwyfannau."

Dywedodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr Cynnwys a Gwasanaethau BBC Cymru: "Mae hwn yn newyddion gwych i wylwyr yng Nghymru ac rwy'n hynod falch fod y BBC yn gallu darparu'r capasiti i sicrhau fod S4C yn darlledu mewn Manylder Uwch yn ystod yr oriau brig. Mae'n arwydd pellach o'r cydweithio da a'r bartneriaeth gref sydd rhwng y ddau ddarlledwr ond yn fwy na dim mae'n newyddion gwych i wylwyr y sianel ar hyd a lled y wlad."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?