S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn matshio arian tocynnau Cyngerdd Wcráin

25 Mawrth 2022

Mae S4C wedi cyhoeddi y bydda nhw'n matshio, punt am bunt, yr arian sy'n cael ei godi drwy werthiant tocynnau ar gyfer Cyngerdd Cymru ac Wcráin sy'n cael ei gynnal yn Aberystwyth a'i ddarlledu ar y sianel ar 2 Ebrill 2022.

Yn ogystal bydd S4C yn cyfrannu holl incwm hysbysebu'r diwrnod i gronfa apêl DEC ar gyfer pobl sy'n ffoi'r rhyfel yn Wcráin.

Mae'r cyngerdd, sydd i'w gynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth yn cael ei arwain gan Elin Fflur ac yn cynnwys cyfraniadau gan Yuriy Yurchuk y bariton o Wcráin wnaeth ganu anthem genedlaethol y wlad y tu allan 10 Stryd Downing, Gwyn Hughes Jones, y tenor o Fôn a Chôr Glanaethwy.

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Siân Doyle: "Rwy'n falch iawn fod S4C yn gallu gwneud y cyfraniad yma tuag at helpu'r bobl sy'n ffoi'r trychineb sy'n datblygu yn Wcráin.

"Mae gwylio'r adroddiadau newyddion ar S4C yn gwneud i rywun deimlo'n ddiymadferth, ond drwy'r ffordd ymarferol yma rydym yn gobeithio y gall S4C a pawb yng Nghymru wneud cyfraniad i helpu."

Bydd modd cysylltu â llinell ffon DEC i gyfrannu ar y noson.

Mae modd prynu tocynnau drwy wefan Canolfan y Celfyddydau a bydd y cyngerdd i'w weld ar S4C ac S4C Clic am 8:30yh, nos Sadwrn 2 Ebrill 2022.

Yn ymddangos yn y cyngerdd bydd: Yuriy Yurchuk – bariton o Wcráin sydd ar hyn o bryd yn ymddangos yn Covent Garden (Yuriy Yurchuk yn canu tu allan i Stryd Downing), Orlyk ( grwp Dawns Wcrainaidd), Y tenor o Fôn Gwyn Hughes Jones, Y tenor Dafydd Wyn Jones o Ddyffryn Clwyd, Contemporary Music Collective, Côr y Cwm, Côr Glanaethwy, Côr Ysgol Gynradd Plascrug Aberystwyth.

Rondo Media sydd yn cynhyrchu'r noson ar gyfer S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?