S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Wynebau newydd yn ymuno â thîm Tywydd S4C

24 Mai 2022

Bydd dwy wyneb newydd yn ymuno gyda thîm Tywydd S4C cyn diwedd y mis.

Bydd Branwen Gwyn a Tanwen Cray yn ymuno gydag Alex Humphreys a Megan Williams i greu tîm tywydd benywaidd cyntaf S4C.

Er i Branwen o Gaerdydd ddechrau ei gyrfa yn gweithio fel cyflwynydd ar amryw o raglenni gwahanol, yn fwy diweddar mae hi wedi bod yn cynhyrchu a sgriptio ar gyfer gwasanaeth plant S4C, Cyw.

Mae Tanwen Cray o Fro Morgannwg newydd dreulio'r flwyddyn ddiwethaf yn astudio MA Newyddiaduraeth Darlledu ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Pan welais i'r hysbyseb, nes i feddwl ar unwaith – ma rhaid fi fynd am hwnna" meddai Branwen.

"Fel pawb, ma'n siŵr – ma gen i ddiddordeb mawr yn y tywydd, ac ma'r tywydd yn cael effaith fawr ar fy hwyliau!

"Dwi'n caru'r haul ac unrhyw gyfle dwi'n cael fe fydda i allan yn yr haul yn gweithio, eistedd a mwynhau!

"Dwi'n edrych mlaen yn fawr at fod nol yn cyflwyno ac at y wefr o gyflwyno'n fyw."

Ychwanegodd Tanwen: "Fi bob amser wedi meddwl mai un o'r swyddi gore mewn darlledu yw cyflwyno'r tywydd achos mae'n gyfle i gyfathrebu gydag ystod eang o wylwyr.

"Mae pawb ohonom a diddordeb yn y tywydd! Ma'r tywydd erbyn hyn yn cwmpasu pwnc mor bwysig hefyd a newid hinsawdd.

"Fi methu aros i ddechrau arni, ac ro'n i mor gyffrous pan glywais i mod i wedi cael y swydd."

Bydd Branwen a Tanwen i'w gweld ar ein sgriniau o ddiwedd mis Mai.

Mae'r tywydd yn rhan o wasanaeth Newyddion S4C ac yn cael ei ddarlledu o adeilad y BBC yn Sgwâr Canolog, Caerdydd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?