S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rownd a Rownd yn dathlu mis Pride gyda chyfres o fonologau gan awduron ifanc

7 Mehefin 2022

Er mwyn dathlu straeon pobl ifanc LHDTC+ yng Nghymru heddiw, bydd Rownd a Rownd yn cyhoeddi pedair monolog newydd gan bedwar awdur ifanc i nodi mis Pride eleni.

Bydd y pedair fonolog yn cael eu cyhoeddi ar dudalen YouTube Rownd a Rownd ar 6 Mehefin ac yn ganlyniad galwad agored gan y gyfres ddrama mewn cydweithrediad â'r Eisteddfod Genedlaethol a Mas ar y Maes gyda chefnogaeth gan Stonewall Cymru.

Yr awduron a'u monologau yw: Leo Drayton, 21 oed o Gaerdydd; Lowri Morgan, 24 oed o Gaernarfon; Niall Grant-Rowlands, 21 oed o Fangor; a Laurie Elen Thomas, 19 oed o Gaerfyrddin.

Dyma'r cyntaf o alwadau agored gan Rownd a Rownd wrth i'r opera sebon ddatblygu ei harlwy ar-lein a chwilio am ffyrdd newydd o ddarganfod talent y dyfodol ac adrodd straeon cyfoes o Gymru ar ei phlatfformau digidol.

Roedd yr alwad yn gofyn i'r ymgeiswyr 'sgwennu monolog sy'n adlewyrchu profiadau bywyd person ifanc LHDTC+ yng Nghymru heddiw.

Wedi proses o ddatblygu eu gwaith trwy gyfres o weithdai, cafodd y monologau eu ffilmio yn stiwdio Rownd a Rownd yn Llangefni yn ddiweddar gyda'r awduron yn cael y cyfle o gynhyrchu eu gwaith gyda chriw ffilmio proffesiynol.

Y nod yw creu cyfleodd hyfforddi i grwpiau o bobl sy'n cael eu tangynrychioli a dod o hyd i unigolion sy'n newydd i'r byd teledu er mwyn eu datblygu a sicrhau dyfodol iach i'r gyfres ac i'r diwydiant yng Nghymru yn gyffredinol.

Meddai Golygydd Cynnwys Digidol Rownd a Rownd, Ciron Gruffydd: "Mae'n hollbwysig ein bod ni'n meithrin talent newydd a gweithio gyda nhw i ddatblygu eu gwaith gyda ni.

"Wrth i ni ehangu ein darpariaeth ddigidol, a chynnig cyfleoedd i bobl sydd â phrofiadau bywyd amrywiol, gallwn greu cynnwys gwreiddiol, arbennig sydd wir yn adlewyrchu Cymru gyfoes a'r cyfoeth o straeon sydd allan yno'n barod i gael eu hadrodd."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?