S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwyliwch Canada v Cymru yn fyw ar S4C

16 Awst 2022

Bydd tîm rygbi menywod Cymru yn herio Canada ar ddiwedd y mis ac mi fydd y gêm yn cael ei ddangos yn fyw ac yn ecsgliwsif gan S4C.

Gyda'r paratoadau at Gwpan y Byd eisoes wedi cychwyn, bydd Ioan Cunningham a'r tîm yn teithio ar draws Môr yr Iwerydd i gwblhau wythnos o hyfforddiant dwys yn Canada.

Ar ddiwedd yr wythnos, byddant yn wynebu gêm yn erbyn Canada, y tîm sydd yn bedwerydd ar restr ddetholion y byd, yn Halifax ar nos Sadwrn 27 Awst.

S4C fydd yr unig le i wylio'r gêm, gyda'r darllediad yn cychwyn am 8.45yh a'r gic gyntaf am 9.00yh.

Bydd sylwebaeth Cymraeg a Saesneg ar gael ar gyfer y darllediad.

Catrin Heledd fydd yn cyflwyno'r rhaglen yn y stiwdio, gyda'r gohebydd Lauren Jenkins yn dod â'r holl newyddion ac ymateb o ochr y cae.

Gareth Charles a Dyddgu Hywel fydd yn y blwch sylwebu, gyda Ken Owens a Catrin Edwards yn dadansoddi'r cyfan.

Whisper Cymru fydd yn cynhyrchu'r rhaglen ar ran S4C.

Rygbi Merched: Canada v Cymru

Nos Sadwrn, 27 Awst, 8.45yh

Sylwebaeth ac is-deitlau Saesneg ar gael

Cynhyrchiad Whisper Cymru ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?