S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dau Gwmni Cynhyrchu o Ogledd Cymru i Gynhyrchu Gogglebocs Cymru

5 Medi 2022

Mae S4C wedi cyhoeddi heddiw mai dau gwmni cynhyrchu o Ogledd Cymru sydd wedi ennill tendr i gynhyrchu cyfres Gogglebocs Cymru, sef Chwarel a Cwmni Da.

Bydd Chwarel, sy'n adnabyddus am gynhyrchu The Great House Giveaway i Channel 4 a Ty am Ddim i S4C yn cydweithio gyda Cwmni Da sydd wedi ei lleoli yng Nghaernarfon i gyd-gynhyrchu y gyfres Gymraeg gyntaf erioed o fformat poblogaidd Channel 4 a Studio Lambert.

Dyma'r tro cyntaf erioed i Studio Lambert a Channel 4 drwyddedu'r hawliau i ddarlledwr arall yn y Deyrnas Unedig.

Bydd 70% o'r cynnwys yn ymwneud â rhaglenni dwyieithog o Gymru (S4C/ ITV Cymru/ BBC Cymru) gyda'r 30% arall o raglenni rhwydwaith y DU a'r SVods).

Bydd y rhaglen gyntaf yn cael ei darlledu yn ystod wythnos gyntaf mis Tachwedd ac mae'r gwaith castio eisoes ar waith.

"Mae'n mynd i fod yn anhygoel." meddai Sioned Wyn, Rheolwr Gyfarwyddwr Chwarel.

"Da ni wedi aros yn hir am rhywbeth fel hyn. Ein uchelgais yw sicrhau mai dyma'r gyfres fwyaf poblogaidd ar S4C, trwy Gymru gyfan a thu hwnt."

"Da ni wedi bod yn trafod cydweithio ers peth amser" meddai Llion Iwan, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Da, "felly pan ddaeth y tendr ar gyfer fformat mwyaf poblogaidd y DU – roedd hi'n freuddwyd.

"Pwy na fyddai eisiau gweithio ar Gogglebocs! Dwi wrth fy modd."

Sefydlwyd Chwarel yn 2001 gan y Cyfarwyddwr, Cynhyrchydd a'r Entrepreneur Sioned Wyn.

Wedi ei lleoli yng Nghricieth, mae'r cwmni wedi cynhyrchu rhaglenni dogfen o safon uchel am dros 19 o flynyddoedd.

Mae ei rhaglen ddogfen arloesol diweddaraf, The Great House Giveaway (Channel 4) yn taflu golau newydd ar fformat poblogaidd adnewyddu tai.

Llynedd llwyddodd Chwarel i gipio gwobr BAFTA, dwy wobr RTS a gwobr Broadcast.

Sefydlwyd Cwmni Da yn 1997 ac maent wedi bod yn cynhyrchu rhaglenni cyffrous ac uchelgeisiol i S4C, BBC a C4 ers ugain mlynedd.

Mae'r cwmni sy'n eiddo i'r staff, ac yn cael ei arwain gan y Rheolwr Gyfarwyddwr Llion Iwan yn brofiadol tu hwnt yn cynhyrchu cyfresi drama, ffeithiol, rhaglenni plant a chwaraeon i ddarlledwyr domestig, rhwydwaith a rhyngwladol.

Mae Cwmni Da wedi ennill amryw o wobrau BAFTA Cymru, RTS a gwobrau rhyngwladol ac yn cael ei cydnabod fel un o gwmni cynhyrchu mwyaf llwyddiannus Cymru.

CASTIO

Mae cynhyrchwyr Gogglebocs Cymru yn galw ar bobl i gymryd rhan. Bydd y gyfres yn darlledu yn ystod wythnos gyntaf mis Tachwedd ar S4C i gyd fynd gyda dathliadau 40 oed y sianel.

Mae'r cynhyrchwyr yn chwilio am bobl o bob cefndir sy'n caru gwylio teledu fydd yn cynrychioli Cymru yn ei holl amrywiaeth – siaradwyr Cymraeg, siaradwyr newydd ac unrhyw un sy'n hoffi siarad!

Bydd Gogglebocs Cymru yn chwarae rhan flaenllaw yn narpariaeth S4C a bydd Chwarel a Cwmni Da yn gweithio gyda S4C, Channel 4 a Studio Lambert i sicrhau llwyddiant y gyfres yn yr iaith Gymraeg.

Meddai Llinos Griffin Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C: "Mae Gogglebocs Cymru yn rhan bwysig o daith trawsnewid S4C.

"Rydyn ni wrth ein bodd bod Channel 4 wedi ymddiried ynddom ni, a bod dau o gwmnïau cynhyrchu mwyaf deinamig Cymru yn dod at ei gilydd i gynhyrchu'r sioe gyfarwydd a phoblogaidd hon.

"Rydyn ni'n edrych am gast o gymeriadau difyr sy'n cynrychioli Cymru fodern yn ei holl amrywiaeth.

"Mae Gogglebocs Cymru yn fformat teledu gwych, sydd wedi dal dychymyg y genedl.

"Rydyn ni eisiau i S4C fod yn gartref cynhwysol a chyffrous ar gyfer cynnwys o safon uchel sy'n perthyn i bawb."

I ymgeisio i fod yn rhan o Gogglebocs Cymru, cysylltwch â GogglebocsCymru@S4C.cymru.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?