S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cyhoeddi newidiadau creadigol i'r tîm Comisiynu

28 Medi 2022

Mae S4C wedi cadarnhau heddiw newidiadau creadigol i'r tîm comisiynu.

O dan arweiniad y Prif Swyddog Cynnwys, Llinos Griffin-Williams, mae nifer o newidiadau allweddol i swyddi presennol wedi'u cadarnhau gyda thair rôl newydd ychwanegol yn cael eu creu.

Mae'r Comisiynydd Cynulleidfaoedd Ifanc 16-24 yn swydd newydd a fydd yn cael ei llenwi gan Guto Rhun, sef cyn Gomisiynydd Cynorthwyol Cynnwys Ar-lein S4C.

Bydd y swydd hon yn rhoi ffocws ar gynulleidfa iau y sianel a chryfhau portffolio cynnwys ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed.

Yn ogystal, mae swydd newydd arall, Pennaeth Di-sgript, hefyd wedi ei chreu ac yn y broses recriwtio.

Bydd y rôl uwch newydd hon yn canolbwyntio ar ddatblygu cyd-gynyrchiadau'r sianel, gan ddatblygu cyfleoedd rhyngwladol.

Wrth i S4C ganolbwyntio ar ddatblygu strategaeth cynnwys digidol mae rôl Arweinydd Cynnwys Trawsnewid Digidol newydd wedi'i rhoi i Rhodri ap Dyfrig a fydd yn arwain ar Arloesedd, Cynnwys Digidol a Phrosiectau Arbennig.

Mae Llinos Griffin-Williams hefyd wedi cadarnhau newidiadau pellach o fewn y tîm comisiynu presennol.

Bydd Gwenllian Gravelle, cyn Gomisiynydd Drama S4C, nawr yn dechrau yn ei swydd fel Pennaeth Sgriptio gyda rôl gefnogol o Weithredwr Comisiynu Sgript hefyd yn cael ei recriwtio.

Mae Llinos Wynne, cyn Gomisiynydd Ffeithiol S4C bellach yn cymryd y rôl fel Pennaeth Dogfennau a Ffeithiol Arbenigol

Bydd Sue Butler yn symud i swydd Pennaeth Chwaraeon gan ganolbwyntio ar Chwaraeon Byw, Uchafbwyntiau a Hawliau Chwaraeon.

Bydd Sioned Geraint yn arwain ein strategaeth plant a'n darpariaeth addysg fel Comisiynydd Addysg a Phlant

Bydd Elen Rhys yn dod yn Bennaeth Adloniant ac Adloniant Ffeithiol gan adeiladu ar ein darpariaeth o safon uchel.

Dywedodd Prif Swyddog Cynnwys S4C, Linos Griffin-Williams: "Rwy'n falch iawn o gyhoeddi'r penodiadau newydd hyn yn ogystal â'r newidiadau o fewn y tîm presennol.

"Fy nod ar gyfer y rolau hyn ac ar gyfer strategaeth gomisiynu ehangach S4C, yw ein gwneud yn ddarlledwr digidol ac yn sianel draws-lwyfan gyda ffocws rhyngwladol a chyfleoedd am gyd-gynyrchiadau cyffrous a phartneriaethau arloesol."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?