S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Miliwn o siaradwyr Cymraeg: Lansio Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng S4C a Llywodraeth Cymru

6 Chwefror 2023

Mae S4C ac Adran Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru yn falch o gyhoeddi Memorandwm o gyd-ddealltwriaeth, er mwyn gweithio tuag at y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu ei defnydd erbyn y flwyddyn 2050.

Fel rhan o'i chyfraniad i gyrraedd y miliwn, mae S4C eisoes wedi creu rôl newydd yn gyfrifol am gynnwys aml-blatfform i gefnogi dysgu Cymraeg. Mae S4C yn ymrwymo i ddatblygu ei gwasanaeth i siaradwyr newydd i gefnogi'r rhai sy'n dysgu Cymraeg ac i wneud y cynnwys hyn yn hygyrch i bawb a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd gan roi cyfleoedd i bobl glywed yr iaith.

Mae cyfres newydd, Stori'r Iaith, yn olrhain profiad a pherthynas pedwar cyflwynydd gwahanol gyda'r iaith Gymraeg, sydd yn adlewyrchu ymrwymiad S4C i greu cynnwys cyffrous i ddenu mwy o bobl i siarad Cymraeg ac i wylio'r cynnwys.

Mae hyn hefyd yn rhan o strategaeth ehangach S4C i gefnogi cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Dywedodd Sara Peacock, Arweinydd Strategaeth y Gymraeg yn S4C:

"Rydym ni i gyd yn S4C yn angerddol am yr iaith Gymraeg, ac yn awyddus i chwarae ein rhan i'w chefnogi a'i hybu. Mae'r Memorandwm yma yn dod â ffocws penodol ar yr iaith, sydd hefyd yn cael ei adlewyrchu yn ein Strategaeth y Gymraeg newydd sydd ar y gweill.

Gan weithio'n agos gyda'r tîm Cymraeg 2050 yn y Llywodraeth, a'n holl bartneriaid yn y mudiadau a'r sefydliadau Cymraeg ar draws Cymru, gobeithiwn gyfrannu at ddyfodol ble mae ein hiaith yn wirioneddol perthyn i bawb."

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

"Nod Cymraeg 2050 yw sicrhau bod fwy o bobl yn gallu siarad Cymraeg a bod y defnydd ohoni yn cynyddu. Rwy'n falch o gyhoeddi'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwn er mwyn sicrhau gweledigaeth gyffredin i gynyddu defnydd y Gymraeg a sicrhau dyfodol llwyddiannus i'n hiaith gyda'n gilydd.

"Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni gyd ac mae Stori'r Iaith am chwarae rhan bwysig wrth ddangos perthynas wahanol bobl gyda'r Gymraeg."

Mi fydd S4C a Llywodraeth Cymru yn cynnal digwyddiad arbennig ar y cyd yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd ar nos Fawrth, 7 Chwefror, i lansio'r Memorandwm gyda Jeremy Miles AS a'r cyflwynydd Sean Fletcher.

Sean Fletcher fydd cyflwynydd pennod cyntaf y gyfres newydd Stori'r Iaith, fydd ymlaen ar S4C ar nos Fercher 8 Chwefror. Mae'r gyfres o bedair rhaglen wahanol gyda Sean Fletcher, Lisa Jên, Alex Jones ac Elis James yn mynd â ni ar drywydd hanes y Gymraeg a'u perthynas unigryw nhw â'r iaith.

Bydd pecyn addysgol cynhwysfawr 'Mwy o Stori'r Iaith' yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan HWB Llywodraeth Cymru ar Fawrth y 1af ac ar wefan mwyostoririaith.cymru. Mae'r pecyn addysgol yn cyd-fynd â'r gyfres deledu ac yn cynnwys gweithgareddau rhyngweithiol trawsgwricwlaidd, llinell amser hanes yr iaith ynghyd ag wyth clip fideo yn seiliedig ar y gyfres deledu. Datblygwyd y pecyn gan Rondo Media ac Atebol ac fe'i ariannwyd trwy grant gan Lywodraeth Cymru.

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?