Y Wasg

Y Wasg

Dechrau Canu Dechrau Canmol yn cofio Gwynfor Evans 20 mlynedd ers ei farwolaeth

18 Medi 2025
Yn y bennod gyntaf o’r gyfres newydd o Dechrau Canu Dechrau Canmol, a fydd yn cael ei darlledu ar nos Sul 21 Medi am 19.00 ar S4C, cawn glywed gan aelodau o’i deulu, ac un a weithiodd yn agos gyda’r gwleidydd. 

Creodd Gwynfor Evans hanes ar ôl iddo gael ei ethol yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru yn isetholiad Caerfyrddin yn 1966. 

Bu’n arweinydd ar y blaid am dros 30 o flynyddoedd rhwng 1945 ac 1981, ac arweiniodd ei ympryd dros sefydlu sianel Gymraeg at sefydlu S4C. 

Ond yn ogystal â’i ddaliadau gwleidyddol, roedd ei ffydd Gristnogol yn bwysig i Gwynfor, credoau a ddylanwadodd ar ei deulu. 

Dywedodd ei fab, y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor: 

“Mae ei ddylanwad e yno’n feunyddiol.  O’dd e’n athro Ysgol Sul.  Yn y dosbarth, o’dd e’n trafod beth o’dd yn digwydd yn y byd.  Newyddion y dydd ond o safbwynt Gristnogol, gweld shwt o’dd hyn yn unol â meddwl Iesu a datguddiad yn Iesu.   

“O’dd fy nhad hefyd yn rhyng-genedlaetholwr.  O’dd e’n gweud hyn yn aml, bod e’n rhyng-genedlaetholwr cyn bod e’n genedlaetholwr.  O’dd e’n gweld ei genedlaetholdeb fel rhan o batrwm byd-eang.” 

Ychwanegodd y Parchedig ap Gwynfor, un o saith o blant Gwynfor: 

“O’dd e’n credu bod ’na ddau fath, yn fras, o genedlaetholdeb.  Y naill yw cenedlaetholdeb sydd yn credu bod gan bob cenedl yr hawl i fyw eu bywyd yn llawn heb ymyrraeth gan genhedloedd eraill.  A’r math arall o genedlaetholdeb yw y gred bod ein cenedl ni yn well na chenhedloedd eraill a bod yr hawl gyda’n cenedl ni i reoli cenhedloedd eraill.  Imperialaeth yw hynny.  A bydde fe’n gweud wrthon ni yn y wers Ysgol Sul, y Beibl yw’r gyfrol fwya’ gwrth-imperialaidd sydd yn bod.” 

Yn ôl Meinir Ffransis, merch Gwynfor: 

“Gethon ni’n magu yn y pethau Cymreig.  Dim dim ond cenedlaetholdeb ond heddychiaeth hefyd.  A mae’n gweud ei hunan, o’dd e’n heddychwr cyn dod yn genedlaetholwr.” 

Roedd Heledd ap Gwynfor, wyres Gwynfor sydd bellach yn gweithio i S4C, yn ferch fach yn ystod yr ymgyrch i sefydlu sianel deledu Gymraeg. 

Dywedodd Heledd: 

“O’n i’n ferch ifanc iawn pan o’dd y frwydr ’na’n digwydd.  Felly, er mai prin yw’r cof, mae’r lluniau’n dod â’r hanes hynny’n fyw i fi hefyd ac mae ’na nifer o luniau ohono i a’m mrawd yn y pushchair yn mynd i ralïau ac i brotestiadau.   

“Ac wedyn yn ddiweddarach, wrth gwrs, bydden ni yn parhau â’r traddodiad o brotestio a mynychu ralïau gyda Tadcu.  A beth sy’n aros yn y cof o’dd, o’n i’n ymwybodol bod Tadcu yn ddyn pwysig a dyn â dylanwad, ond yn fwy na hynny bod nifer, nifer o bobl yn hoff iawn ohono fe ac yn ei edmygu e.” 

Bu Peter Hughes-Griffiths yn gweithio’n agos gyda Gwynfor ar hyd y blynyddoedd. 

Dywedodd: 

“Byddai llawer o bobl yn gwybod wrth gwrs, am ei aberth e ynglŷn â chael sianel Gymraeg.  Ond o edrych ’nôl ar ei fywyd e – bywyd hir, gweithgar.  Yn wleidyddol, mae pobl a haneswyr yn derbyn erbyn hyn bod Gwynfor wedi newid ffordd gwleidyddiaeth yng Nghymru a chael pobl i feddwl falle’n wahanol yn wleidyddol.” 

Fel rhan o’r arlwy i gofio am Gwynfor, bydd y ffilm Y Sŵn, enillydd gwobr BAFTA Cymru a ddilynodd hanes y frwydr i sefydlu S4C, yn cael ei hail-ddarlledu ar 20 Medi am 22.30 ar S4C ac ar gael ar alw.