Carchar y Glannau, ac mae carcharor, Barry Hardy, yn codi bag o gyffuriau oddi ar y llawr ar ôl i rywun ei ollwng - penderfyniad sy'n mynd i newid ei fywyd am byth. Er bod ei gymar cell, Peter, yn ceisio ei berswadio i gael gwared â'r cyffuriau, mae gan Barry syniad. Mae digwyddiad gwaedlyd ar y wing yn golygu bod y swyddogion, Elin a Ned, yn poeni am eu swyddi. Ac mae carcharor newydd yn cyrraedd. Dyw Kit Brennan ddim yn wyneb newydd i bawb, ac mae ei ymddangosiad yn peri gofid i fwy nag un.
Drama swreal newydd. Mae newid ar y gorwel ym Mhenwyllt ac mae'r werin sy'n byw yno yn gwybod bod y dref roedden nhw'n ei charu unwaith ar fin diflannu o flaen eu llygaid. Neb yn fwy na Margaret a Clive, sy'n cael eu hysgwyd o'u bywydau normal i ganol ddirgelwch mawr.
Mae Ani'n credu fod ganddi bopeth, gyrfa, tŷ, gwyliau. Ond o dan y wyneb, ydi pethau mor berffaith â mae nhw'n ymddangos? Ym mhriodas ei chwaer mae un sylw gan Dad yn gorfodi Ani i wneud penderfyniad mawr. Pwy sy'n dweud na elli di gael popeth mewn bywyd?
Yn dilyn dadleniad Lea mae Mathew mewn cyflwr o sioc enbyd, ac er mai gwrthod yr honiad yw ei reddf cyntaf, mae'n gorfod wynebu nad oes ganddo ddewis ond gweithredu'n gyfrifol. Her gwbl wahanol sydd yn wynebu Elen a Sian wrth iddyn nhw ymwroli a mentro ar y weiren wib. Mae'r sialens yn rhoi hwb i'r ddwy ac yn gwthio Sian i wneud penderfyniad pwysig ynglyn a'i dyfodol. Wrth i Sophie barhau i geisio deall ei phroblemau iechyd mae hi'n darganfod tir canol gydag aelod annisgwyl o gymdeithas Glanrafo
Cyfle arall i weld y ffilm gerdd i'r teulu cyfan sy'n olrhain bywyd bachgen bach 7 oed o'r enw Noa. Mae rhieni Noa yn hyfryd, ond maen nhw'n brysur tu hwnt. Mae Noa'n unig blentyn, ond dydy e ddim yn unig. Mae Noa wedi creu ffrind dychmygol drygionus o'r enw Albi, sy'n un o nifer o 'ffrindiau dychmygol' sy'n byw mewn byd arbennig iawn. Mae'r ffilm yn adrodd hanes y teulu cyffredin yma yn ystod un gaeaf hudol wrth i fywyd Noa gael ei drawsnewid. Mae'r ffilm wedi'i hysgrifennu a'i chreu gan Caryl