S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Drama

Ar gael nawr

  • Bariau

    Bariau

    Gwylio nawr ar S4C Clic a BBC iPlayer

    Carchar y Glannau, ac mae carcharor, Barry Hardy, yn codi bag o gyffuriau oddi ar y llawr ar ôl i rywun ei ollwng - penderfyniad sy'n mynd i newid ei fywyd am byth. Er bod ei gymar cell, Peter, yn ceisio ei berswadio i gael gwared â'r cyffuriau, mae gan Barry syniad. Mae digwyddiad gwaedlyd ar y wing yn golygu bod y swyddogion, Elin a Ned, yn poeni am eu swyddi. Ac mae carcharor newydd yn cyrraedd. Dyw Kit Brennan ddim yn wyneb newydd i bawb, ac mae ei ymddangosiad yn peri gofid i fwy nag un.

  • Drama gomedi dywyll a chwareus: Pren ar y Bryn

    Drama gomedi dywyll a chwareus: Pren ar y Bryn

    Ar gael ar S4C, S4C Clic, a BBC iPlayer

    Drama swreal newydd. Mae newid ar y gorwel ym Mhenwyllt ac mae'r werin sy'n byw yno yn gwybod bod y dref roedden nhw'n ei charu unwaith ar fin diflannu o flaen eu llygaid. Neb yn fwy na Margaret a Clive, sy'n cael eu hysgwyd o'u bywydau normal i ganol ddirgelwch mawr.

  • Anfamol

    Anfamol

    Bocs Set ar gael nawr ar S4C Clic a BBC iPlayer

    Mae Ani'n credu fod ganddi bopeth, gyrfa, tŷ, gwyliau. Ond o dan y wyneb, ydi pethau mor berffaith â mae nhw'n ymddangos? Ym mhriodas ei chwaer mae un sylw gan Dad yn gorfodi Ani i wneud penderfyniad mawr. Pwy sy'n dweud na elli di gael popeth mewn bywyd?

  • Rownd a Rownd - Cyfres 2024

    Rownd a Rownd - Cyfres 2024

    Yn dilyn fflamau drachefn ym mywyd Elen, daw haul ar fryn wrth i ffrind ddod i achub y teulu a rhoi to uwch eu pennau. Mae Philip yn cyfaddef wrth Mathew ei fod yntau angen help go iawn bellach, wrth iddo barhau i fynd dros ben llestri efo iechyd a diogelwch y siop a'r caffi. Mae Trystan yn llawn llawenydd wrth i Iolo ddod o hyd i jwg cyffelyb i'r un sydd wedi torri, cyn dechrau amau os ydi hi wir werth y gost.

  • Pobol y Cwm

    Pobol y Cwm

    Sylweddola Rhys a Mathew bod y ddau ohonynt wedi bod ar ddêt gyda'r un fenyw! A fydd Colin yn gallu maddau y tro hwn'

  • Y Goleudy

    Y Goleudy

    Mae Efa yn symud i fyw gyda'i thad-cu I dref dawel Brynarfor. Mae'r Goleudy wedi tynnu ei sylw ac mae'n benderfynol o fynd yno

  • Achub Mynydd

    Achub Mynydd

    Drama o Sweden yn dilyn bywydau ymatebwyr cyntaf yng nghyrchfan fynydd hyfryd Are: lleoliad sydd mor syfrdanol ag y mae'n beryglus.

  • None

    Albi a Noa yn Achub yr Iwnifyrs

    Cyfle arall i weld y ffilm gerdd i'r teulu cyfan sy'n olrhain bywyd bachgen bach 7 oed o'r enw Noa. Mae rhieni Noa yn hyfryd, ond maen nhw'n brysur tu hwnt. Mae Noa'n unig blentyn, ond dydy e ddim yn unig. Mae Noa wedi creu ffrind dychmygol drygionus o'r enw Albi, sy'n un o nifer o 'ffrindiau dychmygol' sy'n byw mewn byd arbennig iawn. Mae'r ffilm yn adrodd hanes y teulu cyffredin yma yn ystod un gaeaf hudol wrth i fywyd Noa gael ei drawsnewid. Mae'r ffilm wedi'i hysgrifennu a'i chreu gan Caryl

  • Astrid

    Astrid

    Drama drosedd Ffrengig gyffrous gan Walter Presents. Mae'r ditectif a thorrwr rheolau, Raphaelle Coste, yn gweithio gyda'r archifydd awtistig Astrid Nielsen i helpu i ddatrys achosion anhydrin.

  • None

    BWMP

    Drama gomedi, sy'n canolbwyntio ar prif gymeriad Daisy (Jenna Preece), newyddiadurwraig ifanc anabl sy'n gwneud ei ffordd drwy'r heriau a'r anfanteision o weithio o fewn i ddiwydiant 'ableist¿

  • Rownd a Rownd

    Rownd a Rownd

    S4C Clic

    Cyfres ddrama boblogaidd wedi'i lleoli yn y gogledd.

  • Pobol y Cwm

    Pobol y Cwm

    S4C Clic

    Cyfres sebon wedi'i lleoli mewn pentref o'r enw Cwmderi.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?