S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Drama

Ar gael nawr

  • Bariau

    Bariau

    Gwylio nawr ar S4C Clic a BBC iPlayer

    Carchar y Glannau, ac mae carcharor, Barry Hardy, yn codi bag o gyffuriau oddi ar y llawr ar ôl i rywun ei ollwng - penderfyniad sy'n mynd i newid ei fywyd am byth. Er bod ei gymar cell, Peter, yn ceisio ei berswadio i gael gwared â'r cyffuriau, mae gan Barry syniad. Mae digwyddiad gwaedlyd ar y wing yn golygu bod y swyddogion, Elin a Ned, yn poeni am eu swyddi. Ac mae carcharor newydd yn cyrraedd. Dyw Kit Brennan ddim yn wyneb newydd i bawb, ac mae ei ymddangosiad yn peri gofid i fwy nag un.

  • Drama gomedi dywyll a chwareus: Pren ar y Bryn

    Drama gomedi dywyll a chwareus: Pren ar y Bryn

    Ar gael ar S4C, S4C Clic, a BBC iPlayer

    Drama swreal newydd. Mae newid ar y gorwel ym Mhenwyllt ac mae'r werin sy'n byw yno yn gwybod bod y dref roedden nhw'n ei charu unwaith ar fin diflannu o flaen eu llygaid. Neb yn fwy na Margaret a Clive, sy'n cael eu hysgwyd o'u bywydau normal i ganol ddirgelwch mawr.

  • Anfamol

    Anfamol

    Bocs Set ar gael nawr ar S4C Clic a BBC iPlayer

    Mae Ani'n credu fod ganddi bopeth, gyrfa, tŷ, gwyliau. Ond o dan y wyneb, ydi pethau mor berffaith â mae nhw'n ymddangos? Ym mhriodas ei chwaer mae un sylw gan Dad yn gorfodi Ani i wneud penderfyniad mawr. Pwy sy'n dweud na elli di gael popeth mewn bywyd?

  • Rownd a Rownd - Cyfres 2024

    Rownd a Rownd - Cyfres 2024

    Yn dilyn dadleniad Lea mae Mathew mewn cyflwr o sioc enbyd, ac er mai gwrthod yr honiad yw ei reddf cyntaf, mae'n gorfod wynebu nad oes ganddo ddewis ond gweithredu'n gyfrifol. Her gwbl wahanol sydd yn wynebu Elen a Sian wrth iddyn nhw ymwroli a mentro ar y weiren wib. Mae'r sialens yn rhoi hwb i'r ddwy ac yn gwthio Sian i wneud penderfyniad pwysig ynglyn a'i dyfodol. Wrth i Sophie barhau i geisio deall ei phroblemau iechyd mae hi'n darganfod tir canol gydag aelod annisgwyl o gymdeithas Glanrafo

  • Pobol y Cwm - Cyfres 2024

    Pobol y Cwm - Cyfres 2024

    Mae Griffiths yn dod i benderfyniad mawr ynglyn â dyfodol Tomos ac Ellis. Caiff Eileen a Kelly eu cwestiynu'n ffurfiol am ddigwyddiadau noson y saethu.

  • Pobol y Cwm

    Pobol y Cwm

    Mae'r cynllun i achub y c¿n yn troi'n dreisgar. A fydd Delyth yn penderfynu aros gyda Maya, neu a fydd hi'n rhedeg i ffwrdd gyda Yvonne'

  • Astrid

    Astrid

    Mae Astrid a Raphaelle yn mynd gyda ffrind Astrid, William, i angladd ei frawd. Ond cyn i'r gwasanaeth ddechrau, mae'r corff yn diflannu...

  • Achub Mynydd

    Achub Mynydd

    Drama o Sweden yn dilyn bywydau ymatebwyr cyntaf yng nghyrchfan fynydd hyfryd Are: lleoliad sydd mor syfrdanol ag y mae'n beryglus.

  • None

    Albi a Noa yn Achub yr Iwnifyrs

    Cyfle arall i weld y ffilm gerdd i'r teulu cyfan sy'n olrhain bywyd bachgen bach 7 oed o'r enw Noa. Mae rhieni Noa yn hyfryd, ond maen nhw'n brysur tu hwnt. Mae Noa'n unig blentyn, ond dydy e ddim yn unig. Mae Noa wedi creu ffrind dychmygol drygionus o'r enw Albi, sy'n un o nifer o 'ffrindiau dychmygol' sy'n byw mewn byd arbennig iawn. Mae'r ffilm yn adrodd hanes y teulu cyffredin yma yn ystod un gaeaf hudol wrth i fywyd Noa gael ei drawsnewid. Mae'r ffilm wedi'i hysgrifennu a'i chreu gan Caryl

  • Bariau

    Bariau

    Rhagflas o Bariau - Pob pennod o'r gyfres newydd hon ar gael o Ionawr 3.

  • Rownd a Rownd

    Rownd a Rownd

    S4C Clic

    Cyfres ddrama boblogaidd wedi'i lleoli yn y gogledd.

  • Pobol y Cwm

    Pobol y Cwm

    S4C Clic

    Cyfres sebon wedi'i lleoli mewn pentref o'r enw Cwmderi.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?