S4C
Menu

Navigation

Jen a Jim a'r Cywiadur - Programme 11: 'i' Iâr Indigo

Mae Bolgi a Cyw'n poeni am un o ieir y fferm. Mae hi wedi dodwy wyau lliw indigo! Mae hyn yn ddirgelwch a hanner ac yn un mae Jen a Jim yn edrych ymlaen at ei ddatrys

Mae Jim yn ei elfen yn dweud jocs yn ystod y rhaglen hon ac mae plant wrth eu boddau yn arbrofi 'dweud jocs' hefyd! Mae'r un ddwy lythyren ar goll o air, ac wrth i Jim geisio penderfynu pa un sydd ar goll, mae'r atgyfnerthu gwybodaeth y gwrandawr o lythrennau eraill y gair trwy eu seinio.

Llafar

'cymryd rhan wrth chwarae â synau a geiriau' [Meithrin]

neilltuo a nodi synau cychwynol mewn gair llafar [ Derbyn]

ymuno wrth adrodd/canu hwiangerddi, rhigymau a chaneuon, eu hailadrodd neu eu dysgu ar y cof, gyda pheth cymorth [Derbyn]

Darllen

dehongli ystyr trwy luniau mewn llyfrau, gan ychwanegu manylion wrth esbonio [Meithrin]

cysylltu cardiau lluniau neu wrthrychau â synau cyntaf ar lafar [ Meithrin]

adnabod nifer cynyddol o synau llafar a'u cysylltu â llythrennau [ Derbyn]

Ysgrifennu

adnabod synau llythrennau drwy ymchwilio a chyffwrdd siapiau'r llythrennau o fewn gweithgareddau chwarae aml-synhwyraidd [ Meithrin]

defnyddio'r gytsain gychwynol gywir drwy ddechrau defnyddio gwybodaeth ffonig [ Derbyn]

    li class="masonryGridItem w2">
Can’t find what you’re looking for?