S4C
Menu

Navigation

Taith i begwn y gogledd ar drywydd het, hances ac hosan coll Jangl sy'n wynebu Jen a Jim heddiw. Mae'r ddau'n edrych ymlaen yn arw i dreulio amser yn yr eira!

Cyflwynir ystod o wrthrychau sy'n cychwyn gyda'r lythyren 'h' yn ystod y rhaglen hon – hosan, hances, hopian. Yn ystod un o'r ffilmiau, gwelwn y plant yn didoli dillad gan ddibynnu'n llwyr ar eu clust yn hytrach na'u llygaid i benderfynu os yw'r dilledyn yn cychwyn gyda 'h' a'i peidio. – dyma gam pwysig yn natblygiad iaith plentyn.

Llafar

siarad yn ddigon clir i gael eu deall gan oedolion a chyfoedion [Meithrin]

neilltuo a nodi synau cychwynol mewn gair llafar [ Derbyn]

Darllen

dehongli ystyr trwy luniau mewn llyfrau, gan ychwanegu manylion wrth esbonio [Meithrin]

cysylltu cardiau lluniau neu wrthrychau â synau cyntaf ar lafar [ Meithrin]

adnabod nifer cynyddol o synau llafar a'u cysylltu â llythrennau [ Derbyn]

Can’t find what you’re looking for?