S4C
Menu

Navigation

The new Deian a Loli revealed!

Pan fydd cyfres newydd o'r rhaglen blant hynod boblogaidd Deian a Loli yn dechrau ar S4C yn gynnar y flwyddyn nesaf, bydd dau wyneb newydd yn ein cyfarch yn rôl yr efeilliaid direidus a chanddynt bwerau hudol.

Ar ôl derbyn 350 o geisiadau gan blant drwy Gymru benbaladr, ac ar ôl ymweld â nifer o ysgolion, ac ystyried bron i 600 o blant i gyd, mae'r cwmni cynhyrchu Cwmni Da bellach wedi dewis dau actor ifanc newydd i chwarae rhannau Deian a Loli. Cyhoeddwyd mai Lowri Anes Jarman o Lanuwchllyn fydd yn cymryd rhan Loli, a Gwern Rhys Jones o Lanrug fydd yn actio Deian. Mae Lowri yn mynychu Ysgol Syr O. M. Edwards, a Gwern yn ddisgybl yn Ysgol Llanrug, ac mae'r ddau yn edrych ymlaen yn arw at yr her.

Meddai Lowri Anes Jarman, sy'n 10 oed, "Dw i mor falch mod i'n cael y cyfle yma. Dw i'n teimlo mor lwcus ac yn edrych 'mlaen at yr holl brofiad. Fedrai'm aros i fod yn Loli!" Mae Gwern Rhys Jones, sy'n 11 mlwydd oed yn ysu i ddechrau ffilmio; "Mi roedd actio yn y clyweliadau yn lot o sbort ac mi roeddwn i wrth fy modd pan ges i fy newis i chwarae rhan Deian. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at gael ffilmio Deian a Loli a dod i nabod pawb o'r criw. Dwi'n siŵr y cawn ni lot o hwyl."

Roedd Lowri a Gwern wedi dal sylw tîm cynhyrchu'r gyfres yn gynnar yn y broses, meddai cynhyrchydd y gyfres Angharad Elen; "O'r cychwyn cyntaf, roedd Gwern a Lowri yn serennu. Mae 'na rywbeth annwyl iawn am y ddau, ac mae 'na ddireidi pendant yn perthyn iddyn nhw – sef un o'r elfennau roedden ni'n gobeithio ei ganfod yn y ddau actor newydd.

Rydan ni'n edrych ymlaen yn arw iawn i'w croesawu nhw'n aelodau o deulu bach Deian a Loli! "Hoffwn ddiolch i bob plentyn a wnaeth gais i ymddangos yn y gyfres. Roedd hi'n enbyd o anodd dewis dau am fod y gystadleuaeth mor uchel – dylem ymfalchïo fod y fath dalent ymysg ein pobol ifainc yng Nghymru." Bu dwy gyfres gyntaf Deian a Loli yn llwyddiannus dros ben, gan gipio gwobr BAFTA Cymru yn 2017, ac enwebiad am y rhaglen blant orau yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd a gynhaliwyd yr wythnos ddiwethaf yn Llanelli. Ond, ar ôl mwynhau dwy flynedd o anturiaethau Deian a Loli yng nghwmni'r actorion Moi Hallam o'r Felinheli ac Erin Gwilym o Lanrug, rhaid oedd gwneud y penderfyniad anodd i ffarwelio â nhw wrth i'r ddau fynd yn hŷn.

Mae Angharad Elen, yn esbonio'r penderfyniad i ail-gastio actorion newydd i rôl Deian a Loli; "Bu'n bleser pur i weithio gyda dau actor mor dalentog a brwdfrydig ag Erin a Moi. Dwi'n hynod falch o'r ddau ohonyn nhw, a'u perfformiadau direidus ac agos-atoch. Ond, gan fod yna ddwy flynedd arall o ffilmio Deian a Loli o'n blaenau, a bod Erin a Moi eisoes wedi dechrau yn yr ysgol uwchradd ac yn dal i dyfu, bu'n rhaid cymryd y penderfyniad anodd i ailgastio. Mae'n bwysig fod Deian a Loli yn aros yn ifanc am byth." Bydd y gyfres newydd, gyda'r Deian a Loli newydd, yn dechrau ffilmio ym mis Gorffennaf eleni, ac yn cael ei darlledu yn rhan o wasanaeth Cyw S4C yn gynnar yn 2019.

Can’t find what you’re looking for?