S4C
Menu

Navigation

Fifty years following the Aberfan disaster, Niamh Reese from Cardiff University reviews a special memorial concert in the capital.

50 mlynedd yn ôl, bu farw 116 o blant – 144 o bobl i gyd – ar ôl i wastraff glofaol ddymchwel ar Ysgol Gynradd Pantglas ar yr 21ain o Hydref 1966.

Ar y 9fed o Hydref eleni, cafodd cyngerdd arbennig i gofio Aberfan ei ddarlledu ar S4C. Canolbwynt y noson oedd darn goffa gan Syr Karl Jenkins, a gafodd ei berfformio am y tro cyntaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

"Darn sy'n siarad am blant"

Dywedodd Syr Karl wrth y BBC fod cytuno i ysgrifennu Cantata Memoria i goffau'r ddigwyddiad wedi bod yn bleser.

Fe ddywedodd ei fod yn ddarn "sy'n siarad am blant a sut dylen nhw gael eu hanrhydeddu a'u coleddu", a bod y neges yma yn un fydd yn cael ei glywed ledled y byd. Mae'n gobeithio bydd "pobl yn ei berfformio a bod y darn yn cael ymwybyddiaeth, nid yn unig am y gerddoriaeth ond am yr hanes hefyd".

S4C wnaeth gomisynu Cantata Memoria, gyda'r gwaith yn cael ei berfformio gan Sinffonia Cymru, côr cymysg o 150, yn ogystal â chôr o blant gyda 116 o aelodau – un am bob un a fu farw.

Cymerodd nifer o berfformwyr enwog Cymru rhan yn ystod y noson, yn cynnwys y delynores Catrin Finch a'r canwr Bryn Terfel. Pwysig fu'r cofio i Gymru gyfan felly, nid pobl Aberfan yn unig.

Darllenodd yr actor Michael Sheen gerdd yn y gyngerdd, a dywedodd wrth y BBC ei fod yn "stori am bobl a chymuned yn dod at ei gilydd, ac am iachau - a symud ymlaen i ddyfodol gobeithiol".

Ond clir fu lleisiau lleol Aberfan yn ystod y perfformiad, hefyd. Fe ganodd corau o Ysgol Gynradd Gymunedol Ynysowen ac Ysgol Rhyd y Grug, yn ogystal â Chôr Meibion Ynysowen, a hynny er mwyn cynrychioli'r gymuned. Yn ogystal â hyn, cafodd gwaith ysgrifenedig newydd ei ddangos ar y noson gan y gymdeithas.

"Synnwyr llethol o gyfrifoldeb"

Cafodd libreto'r darn ei hysgrifennu gan gyn-enillwr cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, Yr Athro Mererid Hopwood. Defnyddiodd dair iaith wrth ei hysgrifennu - Cymraeg, Saesneg a Lladin.

Mewn cyfweliad gyda'r BBC, soniodd am gael y cyfle i ysgrifennu'r darn: "O'n i wir yn nerfus yn wreiddiol, ac oedd synnwyr llethol o gyfrifoldeb. Fel dynes o Gymru, ar ôl cael fy magu yn sgil y drychineb, roeddwn i'n ymwybodol iawn o'r sensitifrwydd o amgylch hyn."

Fe aeth Mererid Hopwood a Karl Jenkins i ymweld ag Aberfan i gael syniad o'r lle, ac i gwrdd â'r bobl leol, fel rhan o'r broses o greu'r darn. Roedden nhw am weld sut oedd creu darn fyddai'n adlewyrchu'r digwyddiad – a'r teimladau – mewn ffordd greadigol a pharchus.

Yn dilyn y gyngerdd, fe ddywedodd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones: "Dwi wedi fy syfrdanu gan yr ymateb ry' ni wedi ei dderbyn.

Mae'r ganmoliaeth i'r cyfansoddwyr a'r perfformwyr wedi dod yn un llif, ac yn gymysg â hynny, mae pobl wedi teimlo'r angen i dalu eu teyrngedau eu hunain i gymuned Aberfan."

Can’t find what you’re looking for?