S4C
Menu

Navigation

Yn dilyn dyfarniad dadleuol diweddar yr Uchel Lys - sy'n dweud fod rhaid cynnal pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin cyn y gall y Llywodraeth ddechrau'r broses o adael yr UE - Rhys Dafis o Brifysgol Caerdydd sy'n cyflwyno barn dau o fyfyrwyr am 'Brexit'.

Llun gan 'Elionas2' ar Pixabay.

Mae llawer wedi newid ers i Brydain bleidleisio dros Brexit. Mae gennym Brif Weinidog newydd, mae'r bunt wedi cwympo i'w gwerth isaf ers 168 mlynedd, ac mae'r nifer o ymosodiadau hiliol wedi codi'n sylweddol. Bu dyfarniad hanesyddol ddoe yn yr Uchel Lys, hefyd - penderfynwyd fod rhaid cynnal pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin cyn y gall y Llywodraeth ddechrau'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond beth mae 'Brexit' yn golygu i sefyllfa Cymru, wedi'r cyfan? Ychydig fisoedd wedi i Brydain bleidleisio i adael yr UE, siaradais i gyda dau o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd i holi eu barn ar y canlyniad a'r hyn sydd wedi digwydd ers y 23ain o Fehefin.

Yn gyntaf, siaradais â Leah Williams, Trysorydd Plaid Cymru Ifanc Prifysgol Caerdydd. Mae hi'n 19 oed, yn wreiddiol o Aberteifi ac yn astudio cwrs Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym mhrifysgol Caerdydd. Mae hi'n dod o gefndir amaethyddol. Pleidleisiodd hi i adael yr UE.

Leah Williams

Mae'n rhaid ei bod hi wedi bod yn anodd mynd yn groes i dy blaid. Pam pleidleisio sut y gwnes ti?

Roedd hi yn anodd, ond roeddwn i'n teimlo byddai Prydain a Chymru yn well tu allan i'r UE. Bydd bod allan o'r farchnad sengl yn annog archfarchnadoedd i brynu cynnyrch Prydeinig yn hytrach nag o'r cyfandir, a bydd hyn yn creu mwy o swyddi.

Ond, gan ystyried bod Prydain yn barod yn masnachu gyda llawer o wledydd tu allan i'r UE, faint mae'r tariffau yma wir yn effeithio mewnforio nwyddau tramor?

Mae'r rhan fwyaf o nwyddau mae Prydain yn mewnforio o du allan Ewrop yn rai nad yw Prydain yn medru eu cynhyrchu ta beth.

A beth am yr holl fusnesau Cymreig sy'n dibynnu ar allforion i'r UE? Oni fydd rhain yn gwneud colled sylweddol?

Dim ond 6% o funesau Prydeinig sy'n allforio i Ewrop felly bydd dim effaith enfawr o ystyried y darlun ehangach.

Beth oedd dy farn di ar y ffordd y cyflwynodd y ddwy ochr eu dadleuon yn y refferendwm, yn enwedig o safbwynt Cymru?

Roedd y ddwy ochr yr un mor wael a'i gilydd. Roedd celwyddau'r ymgyrch Brexit yn ofnadwy, a'r ochr 'Remain' yn rhy ymosodol tuag at bobl oedd yn ystyried pleidleisio Brexit. Yn anffodus, rwy'n credu yr anwybyddwyd safbwynt Cymru a chafodd y ffocws ei roi ar Brydain. Roedd sefyllfa Cymru a Lloegr yn wahanol iawn, a byddai mwy o wybodaeth a dadl am safbwynt Cymru wedi bod o fudd mawr.

Pa effaith wyt ti'n credu bydd y refferendwm yn cael arnat ti yn bersonol, ac ar Gymru yn gyffredinol?

Yn anffodus mae cynnydd wedi bod mewn hiliaeth a throseddau hiliol ers Brexit, yn enwedig yn fy ardal i, ac mae hynny'n fy nhristáu. Ond yn yr hir dymor rwy'n credu bydd fy ardal yn buddio; mae'n ardal amaethyddol a chredaf y bydd sefyllfa ffermwyr yn gwella'n sylweddol. Bydd Cymru yn ei gweld hi'n anodd i ddechrau, heb fuddsoddiad Ewropeaidd, yn enwedig o ystyried cwymp y bunt, ond mae'n debygol bydd yr Alban yn gadael y DU, a allai sbarduno ymgyrch annibyniaeth i Gymru. Wrth fynd ymlaen rwy'n credu bydd economi Cymru'n buddio a thyfu o fod allan o'r farchnad sengl. Felly dydw i ddim yn difaru pleidleisio i adael.

Onid yw e hefyd yn bosib y bydd Cymru'n ei chael hi'n anodd fyth cael ei llais wedi'i chlywed, ac y bydd Cymru fel cenedl yn diflannu'n llwyr? A oedd pleidleisio Brexit yn hapchwarae gyda dyfodol yr iaith a'r genedl?

Ydi, ma'n bendant yn risg! Dwi yn cytuno bod rhoi dyfodol Cymru yn nwylo'r cediwadwyr yn 'gamble' mawr. Mae yna nawr ddyletswydd mawr ar y Cynulliad a'n Aelodau Seneddol yn San Steffan i gynrhychioli diddordebau Cymru.

Emlyn Pratt gyda'r AC Jenny Rathbone

Dwy ochr i'r ddadl

Siaradais i hefyd gyda Emlyn Pratt, sy'n Gadeirydd y Blaid Lafur ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae e'n 21 oed, yn wreiddiol o Fryste, ac mae'n astudio Gwleidyddiaeth a Hanes Cyfoes. Fe bleidleisiodd i aros yn yr UE.

Pam pleidleisio sut y gwnes ti? Ges ti dy ddylanwadu gan dy Blaid?

Oherwydd fy mod yn credu yn yr UE a'r syniad o greu Ewrop mwy unedig, y syniad o weithio gyda gwledydd eraill yn hytrach nag ynysu'n hunain o'r byd a pheryglu'n sefydlogrwydd economaidd. Cytunais gyda ffocws ymgyrch Llafur ar hawliau gweithwyr o fewn Ewrop, ond credaf i'r ddadl fod yn bwysicach na theyrngarwch i unrhyw blaid.

Oedd unrhywbeth arall o dy gefndir a wnaeth dy ddylanwadu di i bleidleisio i aros?

Fi yw'r cyntaf o fy nheulu i fynd i'r brifysgol, ac felly dwi'n credu bod hynny wedi cael dylanwad arna i. Fe wnes i weld sut mae prifysgolion yn buddio o arian yr UE a'r cyfleoedd maen nhw'n darparu megis y cynllun Erasmus. Dwi'n credu hefyd fod byw yn un o'r ardaloedd mwyaf aml-ddiwylliannol o Gymru wedi atgyfnerthu fy marn bod y rhethreg gwrth-fewnfudwyr yn gelwyddog ac yn ffals, o weld y cymunedau aml-ddiwylliannol yn cyd-fyw ac yn gwneud Caerdydd yn le mor wych i fyw.

Beth oedd dy farn di ar y ffordd y cyflwynodd y ddwy ochr eu dadleuon yn y refferendwm, yn enwedig o safbwynt Cymru?

Methodd ymgyrch 'Remain' greu dadl digon cadarnhaol dros ymaelodaeth o'r UE, a ffocysu gormod ar dactegau ofn. Ond beth sy'n fy mhryderi mwy yw rhethreg gwrth-fewnfudwyr yr ymgyrch 'Leave', sydd wedi gwaethygu'r rhaniadau o fewn ein cymdeithas, ac wedi achosi ofn i lawer o bobl. Mae'r ffordd y cafodd y cyhoedd eu camarwain, megis yn achos addewid y £350 miliwn i'r NHS, yn dangos ei fod yn annymunol a thwyllodrus. Cafodd Cymru ddim digon o sylw yn ystod yr ymgyrch. Mae'n ddealladwy bod y ffocws ar Brydain, ond pe talwyd mwy o sylw i Gymru, efallai byddai pobl wedi ffeindio'r dadleuon yn fwy perthnasol.

Wyt ti'n credu bod Llafur, a Llafur Cymru yn enwedig, ar fai am beidio â gwneud y ddadl yn fwy perthnasol i Gymru a'i phobl?

Dwi'n credu y bu hi'n anodd i'r Blaid Lafur gael unrhyw neges drosodd pan roedd y wasg fel petai ond â diddordeb yn yr ymladd mewnol yn y Blaid Dorïaidd ynglŷn â Brexit. Er hynny, dwi'n credu y gwnaeth Llafur Cymru yn dda i ffocysu ar fuddsoddiad yr UE yng Nghymru, yn enwedig yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Gwnaeth Carwyn Jones, yn enwedig, draddodi nifer o areithiau oedd yn ceisio rhoi dimensiwn Cymreig i'r ddadl, gan drafod pynciau megis amaethyddiaeth Cymraeg a'r gwaith dur ym Mhort Talbot. Gallai Llafur Cymru wedi gwneud mwy i wthio'r neges hon, ond roedd hi'n anodd gan nad oedd gan y wasg unrhyw ddiddordeb yn ymgyrch y Blaid Lafur, ac roedd llawer o'r ddadl a sylw'r wasg yn ffocysu ar Loegr.

Pa effaith wyt ti'n credu bydd y refferendwm yn cael arnat ti yn bersonol, ac ar Gymru'n benodol?

Rwy'n poeni y bydd gadael yr UE yn cyfyngu fy nghyfleon i astudio a theithio yn Ewrop. Poenaf hefyd y bydd myfyrwyr o'r DU yn methu defnyddio buddsoddiad o'r UE, na gweithio yn ystod blwyddyn dramor, a fydd yn eu hanfanteisio i gymharu â'u cyfoedion o fewn yr UE. Mae Cymru hefyd yn derbyn llawer o fuddsoddiad Ewropeaidd. Mae yna berygl na fydd llywodraeth y DU yn rhoi unrhywbeth i gymryd ei le, fyddai'n gadael isadeiledd Cymru mewn stâd truenus iawn. Credaf taw pobl ifanc Cymru fydd yn cael eu effeithio waethaf gan unrhyw ddirwasgiad economaidd.

Can’t find what you’re looking for?