Yn y gyfres yma bydd 3 person o'r un ardal yn camu i'w ceginau i baratoi pryd o fwyd tri chwrs i'w gilydd. Fe fydd pob un o'r tri yn gyfrifol am ddewis un cwrs yr un. Ond nid nhw fydd yn paratoi na choginio y ryseit ma nhw wedi ei ddewis. Fydd na flas ar y bwyd ac ar y sgwrs rownd y bwrdd tybed' Y tro hwn, byddwn yn Nhregaron.
Mae'r cogydd Chris Roberts, y gomediwraig Kiri Pritchard-Mclean a'r cyflwynydd Alun Williams ar daith fythgofiadwy drwy Seland Newydd. Mae'r daith yn cychwyn yn Queenstown, tref yn Ynys y De sydd â chysylltiad annisgwyl â Chymru, cyn profi un o anturiaethau enwocaf y wlad, y Nevis Swing - ond faint fydd yn barod i roi cynnig arni' Yn Dunedin, mae'r tri yn mwynhau sesiwn blasu cwrw yn Speights Brewery, bragdy hynaf ac enwocaf y wlad, cyn rhoi cynnig ar seiclo i fyny Stryd Fwyaf Serth y Byd.
Yn y gyfres hon bydd y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Scott Quinnell yn mynd ar daith ar hyd a lled Cymru, yn troi ei law at bob math o weithgareddau a phrofiadau amrywiol. Cyfle i ymarfer ei Gymraeg a dysgu geirfa newydd wrth iddo siarad hefo'r bobl leol ac ambell wyneb cyfarwydd. Ac wrth gwrs bydd personoliaeth heintus Scott yn siwr o sicrhau llond bol o hwyl yn y broses. Yr wythnos hon mae'n rhoi cynnig ar Yodlo hefo Ieuan Jones, yn Ceufadu ar yr afon Tâf yng ngwmni Rhys Pinner, ac yn my