Neidio at y cynnwys

S4C

Y Rhufeiniaid

Y Rhufeiniaid

Bydd y gyfres hanes drawiadol hon yn dwyn i gof cyfnod y Rhufeiniaid fel meistri Prydain.

Yn y gyfres dair pennod, fe fydd y gohebydd gwleidyddol Rhun ap Iorwerth yn bwrw golwg ar y cyfnod rhwng 43 a 410 Oed Crist. Yn y blynyddoedd hynny roedd Cymru, a Phrydain, yn rhan ymylol o ymerodraeth oedd yn un o'r mwyaf pwerus yn hanes y byd.

Taith gyffrous Rhun

Ganrif ynghynt roedd Iwl Cesar ei hun wedi methu yn ei ymgais i goncro Prydain. Pam felly penderfynodd yr Ymerawdwr Claudius anfon byddin arall? Dyma un o'r cwestiynau fydd yn cael eu hateb gyda help ail-greu dramatig a'r dechnoleg gyfrifiadurol ddiweddaraf, wrth i Rhun ein harwain ar daith gyffrous, liwgar trwy hanes cynnar Prydain.

"Mae'r gyfres yn llawn straeon am arwriaeth arweinwyr y Brythoniaid a chraffter milwrol y Rhufeiniad. Roedd yn braf dysgu mwy am arwyr fel Caradog a Buddug. Ac fel un o Ynys Môn, roeddwn yn gallu ymfalchïo yn benodol yn y safiad wnaeth derwyddon yr ynys yn erbyn y Rhufeiniad," meddai'r cyflwynydd, sy'n byw gyda'i wraig a'u tri o blant yn Llangristiolus ar yr ynys.

Y rhaglenni

Mae'r rhaglen gyntaf yn esbonio pam a sut y daeth y Rhufeiniad i Brydain a llwyddo i feddiannu'r tir yn wyneb gwrthwynebiad ffyrnig y trigolion. Mae'n egluro sut y manteisiodd y goresgynwyr ar y ffaith bod y llwythi Brythoneg yn rhanedig, gan edrych ar her un gwrthwynebydd yn enwedig, Caradog neu Caratacus, a drodd yn arwr Cymreig.

Mae'r ail raglen yn rhoi sylw arbennig i'r arwres Brydeinig, Buddug, arweinydd llwyth yr Iceni, a gododd yn erbyn y Rhufeiniaid yn 60 OC. Cawn weld sut aeth y Rhufeiniaid ati i adeiladu dinasoedd a threfi Rhufeinig trawiadol fel Caerfaddon a Chaerwent yng Nghymru.

Yn rhaglen ola'r gyfres, cawn ddarganfod mwy am gyfnod mwyaf heddychlon y rheolaeth Rufeinig, y Pax Romana. Yn y cyfnod hwn, daeth dyfeisgarwch mawr y Rhufeiniaid i'r amlwg wrth godi canolfannau milwrol fel Caerllion ac wrth gloddio aur yn Nolaucothi, Pumsaint.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales