Williams yw Chwaraewr y Flwyddyn

Sgorio

Sgorio

Dydd Iau, 12 Nov 2009, 12:20

Ashley Williams gipiodd y prif wobr yn noson wobrwyo Cymdeithas Bêl-droed Cymru nos Fercher gydag Aaron Ramsey yn ennill gwobr y Chwaraewr Ifanc.

A choronwyd tymor arbennig i Williams wrth iddo ennill gwobr Chwaraewr Clwb y Flwyddyn yng nghinio blynyddol y Gymdeithas Bêl-droed yn Stadiwm Dinas Caerdydd hefyd.

Yn ogystal â gwobrau Williams a Ramsey cafodd cyn golwyr Cymru, Ken Jones a Gary Sprake, eu anrhydeddu â gwobrau oes.

Pum mlynedd yn ôl roedd Williams yn chwarae pêl-droed lled broffesiynol i Hednesford Town ar ôl iddo gael ei ryddhau gan West Bromwich Albion.

Ond ar ôl arwyddo i Stockport County, llwyddodd i greu cryn argraff a chafodd ei alw i garfan Cymru am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2008 ar gyfer y gêm gyfeillgar yn Lwcsembwrg.

O fewn 24 awr i ennill ei gap rhyngwladol cyntaf, roedd Williams wedi symud ar fenthyg i Abertawe gan chwarae rhan allweddol wrth i’r Swans ennill pencampwriaeth Adran Un.

Dim ond un gêm mae Williams wedi golli i Gymru ers ennill ei gap cyntaf yn y fuddugoliaeth dros Lwcsembewrg, sef y golled gartref yn erbyn Y Ffindir

A chwaraeodd pob munud o pob gêm i’r Swans yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf ar ôl symud yn barhaol i’r Liberty am £400,000.

Llwyddodd Ramsey, enillodd y wobr i chwaraewyr ifanc, i dorri trwodd i dîm cyntaf Arsenal tymor diwethaf gan sgorio ei gôl gyntaf i’r Gunners yng Nghynghrair y Pencampwyr yn erbyn Fenerbahce.

Wrth gasglu ei wobr oes, achubodd Jones, oedd yn aelod o garfan Cymru yng Nghwpan y Byd 1958, ar y cyfle i annerch y gunulleidfa.

"’Dwi’n yn erfyn ar y chwaraewyr ifanc ‘ma i sicrhau ein bod ni yn cyrraedd un o prif bencampwriaethau’r byd pêl-droed eto," meddai.

"’Does gen i ddim llawer i fynd ar yr hen fyd ‘ma ond ‘dwi am ein gweld ni yng Nghwpan y Byd cyn i mi fynd."

Ac roedd cyn golwr Leeds United, Sprake, yn amlwg dan deimlad, wrth iddo ddatgan ei siom mai dim ond 37 cap y casglodd dros ei wlad.

"Mae hi’n bechod mai dim ond 37 o weithiau ges i’r cyfle i chwarae dros Gymru, ond roedd hi’n anrhydedd mawr i mi ar pob un achlysur," meddai.