Merched Cymru’n anelu am 2011

Sgorio

Sgorio

Dydd Mawrth, 22 Sep 2009, 14:36

Wales v Belgium

Cwta bythefnos wedi i’r Almaen chwalu Lloegr 6-2 er mwyn codi tlws Pencampwriaeth Ewrop yn y Stadiwm Olympaidd yn Helsinki, roedd merched Cymru yn dechrau eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2011. 

 
Gwyliwch > Uchafbwyntiau: Cymru v Gwlad Belg
 

Gwlad Belg oedd yr ymwelwyr i Ddôl y Bont, Hwlffordd – tîm sydd 16 safle’n uwch na Chymru ar restr detholion Fifa a thîm lwyddodd i grafu dwy fuddugoliaeth 1-0 yn erbyn merched Adrian Tucker yn eu gemau yn ystod rowndiau rhagbrofol Ewro 2009.

Mae pêl-droed i ferched wedi datblygu’n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru gyda’r tîm cenedlaethol bellach yn cystadlu gyda’r goreuon yn Ewrop.

Gwennan Harries yn brwydro gyda Maud CoutereelsOnd nid felly yr oedd hi yn y blynyddoedd â fu, yn wir, ‘doedd na ddim tîm o Gymru yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Ewrop am y pedair cystadleuaeth agoriadol, ac yn anffodus, roedd y Cymry’n absenol o’r ddau Gwpan y Byd agoriadol hefyd.

Ond, ym 1993, roedd enw Cymru yn yr het pan drefnwyd gemau rhagbrofol Ewro 95 ac yn eu gêm gystadleuol gyntaf colli 2-3 oedd hanes Cymru mewn gêm gyffrous yn erbyn Y Swistir yng Nghwmbrân.

Yn anffodus i Gymru, roedd ’na fedydd tân yn eu disgwyl yn y gêm nesaf – gêm oddi cartref yn erbyn Yr Almaen.

Llwyddodd Yr Almaenwyr, oedd wedi cyrraedd rownd gynderfynol Pencampwriaeth Ewrop ym 1993 i chwalu Cymru 12-0 yn Bielefeld cyn taro dwsin arall o goliau heibio i’r Cymry yn y gêm gyfatebol yn Abertawe.

Roedd hyn yn brawf amlwg fod y bwlch mewn safon rhwng y timau gorau a gweddill timau Ewrop yn anferthol.

Dwy flynedd yn ddiweddarach, yn ystod gemau rhagbrofol Ewro 97, cafwyd dau ddigwyddiad nodweddiadol i dîm merched Cymru.

Er colli eu gemau agoriadol yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ac ynysoedd Faroe, llwyddodd Cymru i sicrhau eu buddugoliaeth gystadleuol gyntaf wrth faeddu’r Alban 5-1 yn Y Drenewydd

A daeth digwyddiad holl bwysig arall yn ystod y golled 1-5 oddi cartref yn Iwerddon pan enillodd merch 17 mlwydd oed o’r enw Jayne Ludlow ei chap cyntaf.

Mae’n deg dweud mai Ludlow yw’r chwaraewr pêl-droed benywaidd gorau mae Cymru erioed wedi ei chael.

Mae hi’n chwarae i glwb mwyaf Lloegr, Arsenal, ac mewn gyrfa ddisglair mae hi wedi casglu wyth Pencampwriaeth Lloegr, wedi codi Cwpan FA Lloegr saith gwaith ac wedi cael ei hethol yn Chwaraewr y Flwyddyn ar dair achlysur.

 
Mwy > Yr Almaen 2011: Canlyniadau a thabl
 

O gofio nad yw pêl-droed i ferched yn gamp broffesiynol, mae ymroddiad a theyrngarwch Ludlow i Gymru yn arbennig ac mae hi’n esiampl gwych i’r aelodau iau yng ngharfan Cymru.

Helen Lander tussles with Maud Coutereels of BelgiumYn 2003, cafwyd penderfyniad dadleuol i dynnu tîm y merched allan o gemau rhagbrofol Ewro 2005 gan arwain at nifer o bobl yn cwestiynu ymroddiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru tuag gêm y merched.

Ond, diolch i’r drefn, roedd Cymru yn ôl yn cystadlu yn 2005 a bron fel petai’r tîm am brofi pwynt, fe orffennodd Cymru ar frig grŵp oedd yn cynnwys Israel, Estonia a Moldofa.

Llwyddodd Cymru i hedfan trwy gemau rhagarweiniol Ewro 2009 gyda thair buddugoliaeth allan o dair gêm yn erbyn Kazakhstan, Macedonia ac Ynysoedd y Faroe.

Ac er na chafwyd yr un buddugoliaeth yn eu grŵp rhagbrofol, fe all tîm Adrian Tucker fod yn falch iawn o’r ffaith mai’r ddau dîm lwyddodd i gamu ymlaen allan o grŵp Cymru oedd Yr Almaen, enillodd y gystadleuaeth, a’r Iseldiroedd, gyrhaeddodd y rownd gynderfynol.

Mae hi hefyd yn werth nodi mai nid Ludlow ydi’r unig seren yng ngharfan Cymru bellach.

Llwyddodd Jessica Fishlock i wneud ei marc yn Yr Iseldiroedd gan ennill yr Eredivisie Vrouwen gydag AZ Alkmaar, mae Helen Lander yn gyd chwaraewr â Ludlow yn Arsenal tra bo Gwennan Harries wedi ymuno â’r clwb orffennodd yn ail i Arsenal yn Uwch Gynghrair Lloegr llynedd, Everton.

 
Mwy > Gwneud ei marc yn Alkmaar
 

Yn ogystal â’r tîm cenedlaethol, mae Cynghrair Cenedlaethol i ferched yn cael ei lawnsio yn 2009/10 fydd, gyda chlwb Merched Caerdydd, yn helpu datblygu’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr i’r tîm cenedlaethol wrth i Gymru anelu am Yr Almaen 2011.