Bale yw Chwaraewr y Flwyddyn

Sgorio

Sgorio

Dydd Llun, 4 Hyd 2010, 21:16

 

CafGareth Baleodd Gareth Bale ei urddo’n Chwaraewr y Flwyddyn yng nghinio gwobrwyo blynyddol Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Lun.

Cafodd chwaraewr canol cae Tottenham Hotspur ddiweddglo gwych i’r tymor efo Spurs tymor diwethaf ac mae o wedi parhau i serenu yn Uwch Gynghrair Lloegr a Chynghrair y Pencampwyr tymor yma.

Aaron Ramsey casglodd y wobr ar gyfer Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn er gwaetha’r ffaith nad ydi o wedi chwarae ers dioddef anaf cas ym mis Tachwedd tra’n chwarae i Arsenal yn erbyn Stoke.

Ashley Williams, enillodd y brif wobr llynedd,  gafodd ei enwebu’n Chwaraewr Clwb Cymreig y Flwyddyn am yr ail dymor yn olynol.

Bale yw’r chwaraewr ieuengaf erioed i ennill cap dros Gymru pan ddaeth i’r maes fel eilydd mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Trinidad a Tobago ym mis Mai 2006 yn 16 mlwydd a 315 diwrnod oed

Ac, ar ôl enill y wobr ar gyfer Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn yn 2007, mae’n dilyn ôl traed Ryan Giggs, John Hartson, Rob Earnshaw a Craig Bellamy fel chwaraewr sydd wedi casglu’r brif wobr hefyd.

Yn ogystal â’r prif wobrau, cafodd cyn chwaraewr rhyngwladol Cymru, Leighton Phillips, a rheolwr Bangor, Neville Powell, eu cyflwyno â gwobrau oes am eu cyfraniad i bêl-droed Cymru.

Llwyddodd Phillips i ennill 58 cap dros ei wlad rhwng 1971 a 1981 tra’n chwarae i Gaerdydd, Aston Villa, Abertawe a Charlton Athletic.

Ac mae Powell, cyn chwaraewr gyda Tranmere Rovers, Bangor a Chei Connah, wedi gwneud ei farc fel rheolwr yn Uwch Gynghrair Cymru gan ennill Cwpan Cymru tair blynedd yn olynol gyda’r Dinasyddion.