Ffarwelio â Farrar Road

Sgorio
Sgorio

Sgorio

Dydd Mercher, 28 Rhag 2011, 13:36

Yr actor, John Ogwen, fu’n hel atgofion o Ffordd Farrar ar gyfer agoriad rhaglen Sgorio o’r gêm olaf i’w chynnal yn yr hen stadiwm enwog.

Ffarwelio â Farrar Road

Fan hyn eisteddodd arwyr y dyrfa ers cyn cof,
Arwyr glew y Gleision, a’r cae fu’n dynfa bro.
Ysbrydion dyddiau du a gwyn sydd eto’n fyw yn bod,
Pan ddaeth tîm mawr o’r Eidal, i’w curo yn Farrar Road.
Pump oed yr atgof cyntaf, yng nghodi dros y glwyd,
Ac atgof un ar bymtheg – rhoi’r bêl yng nghefn y rhwyd.
Ysbrydion mwy diweddar, rhai enwog ar y blaen,
Yn dod i’r amlwg eto i herio mawrion Sbaen.
Wrth adael cartref heno, a byth i ddod yn ôl,
Cymysg yw’r emosiynau, ail fyw pob cic, pob gôl.
Rhown ddiolch am pob atgof a phrofiadau eto’i ddod,
Caiff Bangor godi’r cwpan – ond nid yn Farrar Road.

John Ogwen


Mwy > Atgofion Ffordd Farrar

Mwy > Atgofion 2011: Pencampwriaeth Bangor