Joe Allen yw Chwaraewr y Flwyddyn

Joe Allen
Sgorio

Sgorio

Dydd Mawrth, 9 Oct 2012, 11:58

Cafodd Joe Allen ei urddo’n Chwaraewr y Flwyddyn yn ystod seremoni wobrwyo flynyddol Cymdeithas Bêl-droed Cymru nos Lun.

Wedi ennill gwobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn yn 2011, cipiodd y chwaraewr canol cae 22 mlwydd oed y brif wobr yn dilyn ei berfformiadau dros Gymru ac Abertawe tymor diwethaf.

Ac i goroni noson a thymor bendigedig i Allen, cafodd ei enwebu’n Chwaraewr Clwb y Flwyddyn hefyd.

Adam Matthews o Celtic gasglodd gwobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn yn y cinio yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd gydag Aneurin Thomas o Aberystwyth yn ennill Chwaraewr Clwb y Flwyddyn yn Uwch Gynghrair Cymru.

Yng ngwobrau’r merched, Jess Fishlock, capten y tîm cenedlaethol, gipiodd gwobr Chwaraewr y Flwyddyn am yr ail flwyddyn yn olynol, Hannah Keryakoplis o Lerpwl gipiodd Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn gyda Nadia Lawrence o glwb Mets Caerdydd yn ennill gwobr Chwaraewr Clwb y Flwyddyn.

Seren canol cae Cymru a Spurs, Gareth Bale gafodd gwobr Chwaraewr y Cefnogwyr a hynny am yr ail dymor yn olynol, tra bod cyn gapten Cymru, Peter Rodrigues, a’r cyn ddyfarnwr, Ffrancon Roberts, wedi cael Gwobrau Oes.