Oriel yr Anfarwolion: Marc Lloyd-Williams

anforwolion-jiws
Sgorio

Sgorio

Dydd Sadwrn, 22 Medi 2012, 18:00

Gydag Uwch Gynghrair Cymru yn dathlu 20 mlynedd o bêl-droed y tymor yma, mae Sgorio, ynghŷd â Chymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dod at ei gilydd i sefydlu Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru.

Bydd 20 chwaraewr yn cael eu hurddo yn ystod y tymor a’r cyntaf i sicrhau ei le ymysg yr anfarwolion yw’r ymosodwr athrylithgar, Marc Lloyd-Williams.

Lloyd-Williams yw prif sgoriwr yn holl hanes y gynghrair gyda 319 o goliau mewn 468 o gemau yn yr Uwch Gynghrair.

Dechreuodd ei gyfnod yn y gynghrair gyda Porthmadog yn ôl ym 1992 ond daeth yn enwog trwy Ewrop yng nghrys glas Bangor ar ôl taro 47 o goliau a dod yn brif sgoriwr Ewrop yn 2001/02.

Rhwydodd 29 hat-tric yn ystod ei yrfa yn Uwch Gynghrair Cymru a llwyddodd ‘Jiws’ i ennill y Bencampwriaeth ddwywaith, gyda’r Seintiau Newydd a gyda Bangor cyn ymddeol yn 2010.

Ystadegau gyrfa Uwch Gynghrair Cymru Marc Lloyd-Williams:

ClwbYmddGoliau
1992–1994Porthmadog7528
1994–1995Bangor2921
1996–1998Bangor5831
2000–2002Bangor5568
2003Bangor1710
2003–2004Aberystwyth3218
2004–2006Y Seintiau6760
2006–2007Bangor3019
2007–2008Y Drenewydd2016
2008Y Rhyl137
2008–2009Porthmadog3324
2009–2010Airbus UK3416
2010–2011Y Drenewydd41