Pwy fydd yma mewn can mlynedd?

barry-county-swans
Dylan Ebenezer

Dylan Ebenezer

Dydd Iau, 8 Nov 2012, 09:54

Roedd 1912 yn flwyddyn fawr i bêl-droed yn ne Cymru. O grombil y gweithfeydd a’r dinasoedd diwydiannol, ffurfiwyd 3 chlwb sydd wedi dylanwadu’n drwm ar y gêm yn ein gwlad.

Y bêl gron oedd y gêm ffasiynol ar y pryd – ac roedd ’na glybiau newydd yn ymddangos fel madarch ar draws Prydain. Yn Abertawe, Casnewydd a’r Barri daeth dynion at ei gilydd i sefydlu timau ac i sicrhau bod nhw yn cael ymuno yn y parti pêl-droedaidd.

Er gwaetha’r gwahaniaethau erbyn hyn mae yna debygrwydd mawr yn hanes y tri hefyd. Bosib bod ’na batrwm i bob clwb?

Y dechrau cyffrous a’r llwyddiant cynnar – blynyddoedd o ddioddef yn y diffeithwch. Cyn (os chi’n lwcus) sicrhau sbarc i ail gydio yn y fflam a chodi eto.
Er y cyffredinoli – mae’r patrwm yn ail adrodd ei hun hyd heddiw.

Mae saga’r Swans ar draws y blynyddoedd yn crynhoi hynt a helynt y byd pêl-droed. Am bob cyfnod euraidd mae yna adegau ansicr. Am bob gwibdaith i fyny’r cynghreiriau mae yna gwymp enfawr a phoeni am y dyfodol.

Dyfalu a fyddai na ddyfodol.

Ond mae pethau yn gallu newid yn gyflym. Deg tymor ar ôl gorfod ennill y gêm olaf i aros yn y gynghrair bêl-droed – maen nhw yn mwynhau bywyd gyda’r mawrion ar y llwyfan mwyaf – Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae’r Swans yn gallu dathlu eu canmlwyddiant mewn steil.

Tra bod Abertawe wedi aros yn y gynghrair o drwch blewyn roedd Casnewydd ddim mor ffodus.

Ar ôl dilyn y patrwm arferol o lwyddiant a methiant roedd yr 1980’au wedi dechrau yn addawol dros ben yng Ngwent. Roedd ’na lwyddiant yng Nghwpan Cymru – nosweithiau Ewropeaidd – dros bymtheg mil yn tyrru i barc Somerton ar gyfer gemau darbi yn erbyn Caerdydd.

Ond erbyn diwedd y ddegawd daeth diwedd y clwb hefyd.

Diwedd y gan oedd y geiniog fel arfer – ac yn sgil y problemau llithrodd y clwb yn sydyn allan o’r gynghrair bêl-droed. Ar ôl methu cwblhau’r tymor cyntaf yn y Gyngres daeth y clwb i ben.

Ar ôl dechrau o’r dechrau – ac ar ôl blynyddoedd anodd iawn mae’r clwb ar drothwy dychwelyd i’r gynghrair. Mae hi wedi bod yn daith hir yn ôl – ond fe allai’r canmlwyddiant fod yn flwyddyn i’w gofio i Gasnewydd hefyd.

Mae hi’n stori wahanol yn Y Barri. Efallai mai’r canfed flwyddyn fydd y flwyddyn olaf.

Mae’r perchennog dadleuol Stuart Lovering unwaith eto yn bygwth dod a’r clwb i ben. Er bod y cefnogwyr wedi gwneud popeth yn eu gallu i gadw’r blaidd wrth y drws – mae yna fygythiad unwaith eto i’r dyfodol.

Dyw’r Barri erioed wedi profi llwyddiant Abertawe a Chasnewydd – ond dwi erioed wedi gweld ei tebyg yn Uwch Gynghrair Cymru. Dyma’r clwb nath osod y safon yn ein Cynghrair Cenedlaethol. Dyma’r clwb a gododd y gynghrair i lefel gwbl wahanol.

Dyw hyn ddim yn gysur i’r cefnogwyr ond mae hi’n bosib bydd rhaid i’r Dreigiau ddechrau o’r dechrau. Yr unig gysur byddai edrych tuag at Gasnewydd a gweld beth sy’n bosib – yn enwedig gyda’r clwb yn nwylo diogel y cefnogwyr.

Ffurfiwyd clwb arall ym 1912 hefyd – Mid Rhondda AFC. The Mushrooms – neu’r Mush oedd ei ffugenw ac fel y madarch a soniwyd amdanynt yn gynharach – dyma glwb a dyfodd yn sydyn cyn diflannu’r un mor gyflym.

Tonypandy oedd cartref y tîm – tref dymhestlog oedd wedi profi terfysgoedd yn y blynyddoedd blaenorol yn sgil gwrthdaro yn y gweithfeydd. Roedd cefnogaeth y gweithwyr yn ganolbwynt i lwyddiant cynnar y clwb – gyda dros 15,00 yn eu gwylio ar adegau.

Erbyn 1920 roedd y torfeydd mawr yn golygu bod ’na arian i ddenu clybiau mawr Lloegr yno’n gyson ar gyfer gemau arbennig.

Ond dechreuodd y gwymp ar ôl methu a sicrhau dyrchafiad i’r gynghrair bêl-droed oherwydd ail strwythuro. Tarodd streic y glowyr ym 1921 yr ardal y galed – daeth y clwb i ben am gyfnod oherwydd dyledion – ac erbyn 1928 roedd y clwb wedi diflannu’n llwyr.

Efallai bod enw Mid Rhondda FC ddim yn enwog erbyn hyn – ond ma’r problemau – a’i tynged yn gyfarwydd i bawb.