Teithio’r tymhorau: 1992/93

92-93
Gary Pritchard

Gary Pritchard

Dydd Llun, 24 Medi 2012, 15:00

Mae hi’n 20 mlynedd ers sefydlu Uwch Gynghrair Cymru ac er mwyn cofnodi’r penblwydd mae Gary Pritchard wedi bod yn tyrchu trwy’r llyfrau hanes i adrodd stori’r tymhorau, gan ddechrau gyda’r tymor cyntaf un yn ôl ym 1992/93.

Stori’r tymor
Ym mis Hydref 1991, cyhoeddodd Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Bêl-droed Cymru, byddai Cynghrair Genedlaethol newydd yn cael ei sefydlu yng Nghymru gan ddechrau ym mis Awst y tymor canlynol.

Roedd Cymru bron yn unigryw yn y byd pêl-droed o fod heb ei chynghrair cenedlaethol ei hun gyda chlybiau mwyaf Cymru yn chwarae dros y ffin yn system Lloegr.

Roedd Caerdydd, Abertawe a Wrecsam yn chwarae yng Nghynghrair Pêl-droed Lloegr gyda Bae Colwyn, Bangor, Caernarfon, Casnewydd, Merthyr, Y Barri, Y Drenewydd a’r Rhyl yn chwarae ym mhyramid is-gynghreiriau Lloegr.

Ond fel popeth sy’n ymwneud â phêl-droed yng Nghymru, doedd creu cynghrair newydd ddim mor hawdd â hynny ac fe drodd yn broses gymhleth a diddiolch.

Rhoddodd y Gymdeithas ganiatâd i’r tri chlwb yng Nghynghrair Lloegr i barhau i chwarae dros y ffin, ond cafodd yr wyth clwb arall lythyr yn eu gorfodi yn ôl i Gymru.

Apeliodd yr wyth clwb, neu’r ‘Irate Eight’ fel a’u gelwir yn y wasg, a phenderfynodd y Gymdeithas ganiatáu i Ferthyr hefyd aros yn Lloegr gan eu bod yn chwarae yn y Gyngres ar y pryd, ond dywedodd y Gymdeithas bod rhaid i’r saith arall ddychwelyd i Gymru … neu wynebu chwarae eu gemau ‘cartref’ dros y ffin.

Ildiodd Bangor a’r Drenewydd gan ddychwelyd i Gymru mewn pryd ar gyfer lansiad Cynghrair Cenedlaethol Cymru ar 15 Awst 1992.

Dechreuodd Bangor, oedd yn ffefrynnau’r rhan fwyaf o’r gwybodusion, yn dda gyda buddugoliaethau dros Y Fenni, Aberystwyth a Lido Afan.

Ond collodd y Dinasyddion eu momentwm cynnar ac roedd colled 0-6 gartref yn erbyn Treffynnon yn agoriad llygaid i selogion Ffordd Farrar ac yn rhybudd na fyddai ennill y Bencampwriaeth mor rhwydd ac yr oedd rhai yn ei feddwl.

Er i Aberystwyth bwyso am y rhan helaeth o’r tymor, fe drodd y frwydr am y Bencampwriaeth yn frwydr de ddwyrain Cymru rhwng Inter Caerdydd a Chwmbrân.

Ar ddechrau mis Ebrill roedd Cwmbrân ar y brig gyda 72 pwynt, ond roedd gan Inter, oedd â 70 pwynt, gêm wrth gefn.

Cafodd Cwmbrân hwb aruthrol i’w gobeithion pan gollodd Inter ar Y Traeth yn erbyn Porthmadog cyn gorfod bodloni ar bwynt yn Lido Afan.

Manteisiodd Cwmbrân i’r eithaf gan ennill y Bencampwriaeth gyda gêm i’w sbario wrth drechu Llanelli 1-0 ar Barc Stebonheath a dod yn bencampwyr cyntaf Cynghrair Cenedlaethol Cymru.


Helo …
Ar wahân i’r gynghrair ei hun, roedd hi’n helo i Fangor a’r Drenewydd, ddychwelodd i Gymru er gwaetha’r ffaith iddyn nhw apelio yn erbyn penderfyniad gwreiddiol Cymdeithas Bêl-droed Cymru i’w gorfodi i adael is-gynghreiriau Lloegr.


Ffarwel i …
Cwympodd Y Fenni a Llanidloes ar ddiwedd y tymor a does yr un o’r ddau glwb erioed wedi dychwelyd i brif gynghrair Cymru ers hynny.

Mae’r Fenni bellach yn chwarae yn nhrydedd adran Cynghrair Gwent – y seithfed lefel o byramid pêl-droed Cymru – tra bo Llanidloes Town yn chwarae yn nhrydedd lefel y pyramid yn Adran Gyntaf Cynghrair Canolbarth Cymru.


Dal yma …
Mae chwech o’r 20 clwb gwreiddiol yn parhau i fod yn Uwch Gynghrair Cymru ar ddechrau tymor 2012/13; Aberystwyth, Bangor, Cei Connah, Lido Afan, Llanelli a’r Drenewydd er dim ond Aber, Bangor a’r Drenewydd sydd wedi bod yn y gynghrair trwy gydol ei hanes.

Roedd rheolwr Aberystwyth, Tomi Morgan, yn chwaraewr gyda’r clwb pan ddechreuodd y gynghrair am y tro cyntaf.

Yn y cyfamser mae Tomi wedi chwarae a rheoli yn Llansantffraid, Aberystwyth (eto), Llansantffraid (eto), Rhayader, Caerfyrddin, Y Trallwng, Porthmadog, Caerfyrddin (eto) cyn dychwelyd i Goedlan y Parc.

Roedd Neville Powell, rheolwr Bangor, yn chwaraewr gyda’r Dinasyddion yn y tymor cyntaf un hefyd – ei olaf ar Ffordd Farrar cyn symud i ymuno â Chei Connah.


Cadw cofnod
Mitch Patton sgoriodd y gôl gyntaf erioed yn y gynghrair pan rwydodd wedi chwe munud o fuddugoliaeth Lido Afan dros Gei Connah ar Sadwrn agoriadol y tymor.

Roedd chwalfa 10-0 gafodd Llansawel gan Lyn Ebwy yn record yn y gynghrair am chwe blynedd cyn i’r Barri daro 12 heibio i Gemaes ym 1998.

Ymosodwr Glyn Ebwy, Steve Woods, rwydodd chwe gôl yn y fuddugoliaeth swmpus dros Lansawel oedd prif sgoriwr y gynghrair gyda 29 gôl.


Tabl Cynghrair Genedlaethol Cymru 1992/93:

ChECyfColl+/-Pt
1Cwmbran382693+4787
2Inter Caerdydd382657+4383
3Aberystwyth3825310+3778
4Glyn Ebwy3819910+1566
5Bangor3819712+1964
6Treffynnon3817813+1759
7Conwy3816913057
8Cei Connah3817417−155
9Porthmadog38141113+1253
10Hwlffordd3816517+153
11Caersws38141014+352
12Lido Afan38141014−152
13Yr Wyddgrug3816319−648*
14Llanelli3811819−1641
15Parc Maesteg3891316−740
16Y Fflint3811621−2039
17Llansawel3810919−2639
18Y Drenewydd389920−3236
19Llanidloes387922−4530
20Y Fenni387724−4028