Y tad a’r mab…a’r clwb pêl-droed

ffans640
Dylan Ebenezer

Dylan Ebenezer

Dydd Iau, 1 Nov 2012, 16:00

Tair wythnos yn ôl ganwyd Ffredi Llywelyn – fy mab. Mae’r geiriau yn dal i swnio’n od ac yn afreal – ond yn hyfryd hefyd. Yng nghanol y pentwr nappies a’r diffyg cwrs ma’ na gwestiwn holl bwysig sy’n parhau i achosi penbleth. Pwy fydd e’n cefnogi?

Ma’ pawb yn cymryd yn ganiataol bydd y mab yn dilyn y tad i gorlan y Gunners – ond dyw hi ddim mor syml â hynny. Mae hyn yn benderfyniad enfawr – a ddylid pasio’r fflam i’r genhedlaeth nesaf? Pasio’r baich i’r babi bach.

Gofynnwyd y cwestiwn sawl tro ar ôl genedigaeth Anni dwy flynedd yn ôl hefyd a dwi dal yn osgoi ateb. Ond ma’ na bwysau nawr i benderfynu.

Achos dewch i fod yn onest mi fyddai bywyd dipyn haws heb bêl-droed. Dychmygwch y byd heb y straen a’r strach o boeni a chwysu am glwb. Dim gwylltio dros ganlyniad gêm – neu torri calon o weld eich arwyr yn gadael.

Ond wedyn dychmygwch fywyd heb y bêl gron. Dyna beth yw brawychus. Colli’r teimlad o berthyn – colli’r dathlu dros ben llestri. Rwy’n teimlo dros rheiny sydd ddim wedi profi’r wefr o’r gôl funud olaf. Achos gwell gorfoledd achlysurol na bodoli heb y bêl.

Felly’r penderfyniad cyntaf yw a ddylen ni ymyrryd? Dylanwadu ar ddewis ap Dylan? Un opsiwn yw eistedd yn ôl a gadael i natur reoli tynged Ffredi ac Anni. Ond mae hynny yn beryglus.

Fe alle nhw gyrraedd gartref o’r ysgol yn cefnogi Tottenham. Neu waeth fyth…yn hoffi rygbi!

Y cwestiwn nesaf yw pa glwb? Pam dilyn clwb o Lundain a ninnau yn byw yng Nghaerdydd? Oes dyletswydd arna’i – yn Gymro i’r carn – i sicrhau bod y plant yn dilyn clwb o Gymru? Ma’ na glwb gwych yn y brifddinas – a’r gefnogaeth yn llawn cymeriadau lliwgar. Byddai bywyd yn braf yn dilyn y Bluebirds.

Ma’ na glwb arall lawr yr M4 sy’n profi llwyddiant anhygoel ar hyn o bryd hefyd. Does bosib byddai’r ddau Ebenezer jnr yn hapus iawn lawr y Liberty yn Abertawe. Ma’ ngwraig i hefyd yn Jack – felly byddai hi wrth ei bodd gyda mwy o Elyrch balch.

Neu beth am droi cefn ar garnifal y gêm fodern a mynd yn ôl i’r gwreiddiau gan ddilyn clwb bach – clwb lleol yn Uwch Gynghrair Cymru? Dim gorfod poeni am brisiau tocynnau – neu boeni am hyd yn oed cael gafael ar docynnau.

Cael y cyfle i ddilyn tîm gan ddod i nabod y clwb a’r chwaraewyr – a mwynhau gonestrwydd y cyfan yn hytrach na bwydo’r bwystfilod sy’n rheibio’r gêm broffesiynol.

Ond dyw hi ddim mor syml a hynny…

Croeso i’r plantos ddilyn unrhyw glwb (heblaw Spurs) ond galla’i ddim ei cyflwyno nhw i fyd estron. Achos ma’ na gysylltiad sy’n mynd yn ôl 35 o flynyddoedd. Cariad afresymol sydd wedi cydio ers i dad fynd a fi i weld Arsenal am y tro cyntaf yn dair blwydd oed.

Ges i ddim dewis – dim ond un clwb oedd yn bodoli – a dwi’n diolch am hynny heddiw.

Dyma oedd ein cyfrinach fach ni. Ein hamser ni gyda’n gilydd – ac mi oedd na lot o amser hefyd yn teithio ar y trên o Aberystwyth i Ogledd Llundain! Dyma ble ddatblygodd y berthynas – y ddealltwriaeth – dilyn Dad i ben draw’r byd pêl droed.

Mae unrhywbeth sy’n sicrhau bod bachgen ifanc yn cofleidio’i dad yn gyhoeddus heb boeni os yw e’n edrych yn ffŵl yn amhrisiadwy.

Does dim amheuaeth bod cefnogi Arsenal wedi dod a fi’n agosach at fy nhad. Byddai’n braf tase fy mhlant i hefyd yn gallu dweud hynny rhyw ddydd.

Mae dilyn clwb yn rhywbeth arbennig iawn. Rhywbeth sydd wedi rhoi pleser a lot o boen – ond sydd hefyd wedi rhoi lliw i’r hen fyd hyll. Ond yn fwy na dim dwi’n meddwl am Arsenal a dwi’n meddwl am fy nhad.

Diolch Dad. A sori Ffredi!