Abertawe’n paratoi am noson fawr Ewropeaidd

Abertawe v Malmö
Sgorio

Sgorio

Dydd Mercher, 31 Jul 2013, 13:36

Nos Iau, bydd Abertawe yn chwarae pêl-droed Ewropeaidd am y tro cyntaf ers 1991, wrth groesawu Malmö o Sweden i Stadiwm Liberty yng nghymal cyntaf Trydedd Rownd Ragbrofol Cynghrair Europa.

Bydd uchafbwyntiau o’r gêm i’w gweld ar Sgorio ar S4C am 10.35 o’r gloch, gyda cyn-gôl geidwad Abertawe a Chymru Dai Davies ac Osian Roberts, aelod o dîm hyfforddi Cymru, yn dadansoddi antur Ewropeaidd ddiweddaraf Abertawe.

Llwyddodd Abertawe gyrraedd Cynghrair Europa ar ôl iddyn nhw ennill Cwpan Capital One yn ôl ym mis Chwefror, drwy guro Bradford 5-0 yn Wembley.

Ac mae tîm Michael Laudrup yn sicr wedi cryfhau dros yr haf wrth iddyn nhw arwyddo pump chwaraewr newydd i garfan y tîm cyntaf yn ogystal ag ail-arwyddo’r chwaraewr canol cae, Jonathan de Guzman ar fenthyg.

Yn newydd i’r Liberty y tymor hwn, mae Jonjo Shelvey (Lerpwl), Alejandro Pozuelo (Real Betis), Jose Cañas (Real Betis), Jordi Amat (Espanyol) a Wilfried Bony (Vitesse Arnhem) gydag Abertawe yn gwario rhyw £20 miliwn i gyd.

Yr ymosodwr o’r Traeth Ifori (Côte D’Ivoire) a’r chwaraewr drytaf yn hanes Abertawe, Wilfried Bony, fydd yn siwr o ddenu’r sylw nos Iau ar ôl i’r Swans dalu £12 miliwn amdano, gan chwalu record flaenorol y clwb (£5.5 miliwn am Pablo Hernandez).

Mae paratoadau Abertawe wedi bod yn dda dros yr haf, gyda ‘mond un gôl wedi ei ildio mewn saith gêm gyfeillgar ond bydd gêm gystadleuol yn erbyn Malmö yn siwr o brofi’n dalcen caletach i dîm Michael Laudrup.

Enillodd Malmö 7-0 yn erbyn Hibernian yng Nghaeredin yr wythnos diwethaf er mwyn camu i’r Drydedd Rownd ac mae’r Swediaid yng nghanol eu tymor domestig ac yn ail ym mhrif adran yr Allsvenskan ar hyn o bryd.

Bydd Michael Laudrup yn ymwybodol o fygythiad y Swediaid ond mi fydd hefyd yn hyderus gall symudiadau a phasio slic y Swans fod yn ormod i’r ymwelwyr. Beth bynnag fydd y canlyniad, mae’n addo bod yn dipyn o noson yn Stadiwm Liberty.

Uchafbwyntiau Abertawe v Malmö ar S4C nos Iau, 1 Awst am 10.35pm