Abertawe’n hwylio i’r rownd nesaf

SWANS FANS
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Iau, 8 Aug 2013, 21:20

Mae Abertawe wedi camu ymlaen i Gemau Ail-Gyfle Cynghrair Ewropa ar ôl trechu Malmö o 4-0 dros y ddau gymal.

0-0 oedd y sgôr terfynol yn y Swedbank Stadion ar ôl i Michael Laudrup wneud saith newid i’r tîm oedd wedi curo 4-0 gartref ar y Liberty yn y cymal cyntaf.

Roedd Jose Canas a Alejandro Pozuelo yn dechrau eu gemau cyntaf i’r Elyrch, gyda Neil Taylor, Ashley Richards a Chico Flores yn cael cyfle i brofi pwynt yn yr amddiffynfa gan obeithio ennill eu lle yn y tîm fydd yn wynebu Manchester United yn eu gêm agoriadol yn yr Uwch Gynghrair ddydd Sadwrn nesaf.

Roedd hi’n gêm ddigon ddi-fflach ond mi fydd Abertawe’n edrych mlaen i weld pwy fydd eu gwrthwynebwyr nesaf wrth i’r timau gael eu tynnu allan o’r het yfory (9fed o Awst).