Blake yn canmol Mackay

nathan-blake-5
Sgorio

Sgorio

Dydd Mercher, 30 Jan 2013, 12:19

Roedd cyn ymsosodwr Caerdydd, Nathan Blake, yn llawn canmoliaeth o reolwr Caerdydd Malky Mackay pan gafodd sgwrs gyda John Hartson am obeithion yr Adar Gleision o sicrhau dyrchafiad.

“Llwyddodd Malky i osod sylfaen dda y tymor diwethaf … gan gyrraedd y gemau ail gyfle a rownd derfynol (Cwpan y Gynghrair),” meddai Blake wrth Sgorio.

“Doedden nhw ddim digon cryf i fynd lan llynedd, ond mae o wedi ychwanegu at ei garfan eleni ac er nad ydy nhw wedi chwarae’n dda trwy’r tymor mae nhw’n parhau i ennill.”

Llwyddodd Blake i ennill dyrchafiad i’r Uwchgynghrair gyda Bolton Wanderers, Blackburn Rovers a Wolves a credodd fod y gallu gan Makay i sicrhau fod Caerdydd yn gallu gystadlu yn yr Uwch Gynghrair.

A cyfaddefodd ei fod yn edrych ymlaen at ddarbi de Cymru yn yr Uwch Gynghrair.

“Mae’r darbi yn gêm llawn angerdd – be fyddwn i’n alwn’n gêm go iawn – byddai gweld y ddau glwb yn yr Uwch Gynghrair yn wych.”